ÌìÌ츣Àû¿´Æ¬

Gwybodaeth am Fodiwlau

Cod y Modiwl
GC22100
Teitl y Modiwl
Gwyddeleg Modern (Iaith a Llên) 1+2
Blwyddyn Academaidd
2025/2026
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Pre-Requisite
Gwyddeleg Modern Lefel 1

Manylion y cyrsiau

Ìý

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr Ìý Arholiad atodolÌý 2 AwrÌý 50%
Arholiad Semester 2 Awr Ìý Arholiad ysgrifenedigÌý 2 AwrÌý 50%
Asesiad Ailsefyll TasgauÌý 1500 o eiriauÌý 30%
Asesiad Ailsefyll Prawf LlafarÌý 10 MunudÌý 20%
Asesiad Semester Prawf llafarÌý 10 MunudÌý 20%
Asesiad Semester YmarferionÌý 1500 o eiriauÌý 30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Byddwch yn gallu cynnal sgwrs estynedig yn yr Wyddeleg.

Bydd gennych wybodaeth ddigonol o ramadeg sylfaenol yr iaith, gan gynnwys ffurfiau amhersonol y ferf, y modd dibynnol, ffurfiau genidol yr enw, cymalau perthnasol, araith anuniongyrchol, ac amryw gystrawennau copiwla.

Byddwch yn gallu dirnad darlithiau syml yn yr Wyddeleg.

Byddwch yn gallu cymryd rhan mewn trafodaethau syml yn yr Wyddeleg.

Byddwch yn gallu ysgrifennu traethodau syml yn yr Wyddeleg.

Byddwch wedi darllen detholiadau o lenyddiaeth lafar y Gaeltacht ac o ryddiaith fodern.

Byddwch yn gallu trafod cyd-destun cymdeithasol a chyd-destun llenyddol y detholiadau darllen hwn.

Disgrifiad cryno

Dosbarthiadau ieithyddol. Gramadeg yr Wyddeleg. Cyfieithu o'r Wyddeleg i'r Gymraeg a Chymraeg i'r Wyddeleg. Darllen a dehongli rhai o destunau llenyddol yr 20fed ganrif: barddoniaeth, storiau byrion. Hefyd astudiaeth o Hanes Llenyddiaeth Wyddeleg o 1600 hyd heddiw; a detholion o'r llenyddiaeth honno.

Nod

Mae'r modiwl hwn yn caniatau i ddechreuwyr ddatblygu eu rhyglder yn yr Wyddeleg.

Cynnwys

.Dosbarthiadau ieithyddol. Gramadeg yr Wyddeleg. Cyfieithu o'r Wyddeleg i'r Gymraeg a Chymraeg i'r Wyddeleg. Darllen a dehongli rhai o destunau llenyddol yr 20fed ganrif: barddoniaeth, storiau byrion. Hefyd astudiaeth o Hanes Llenyddiaeth Wyddeleg o 1600 hyd heddiw; a detholion o'r llenyddiaeth honno.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cydlynu ag erail Ymarfer yr iaith gyda'r tiwtor a myfyrwyr eraill.
Datrys Problemau Creadigol Bydd myfyrwyr yn cymhwyso eu gwybodaeth ramadegol a geirfaol i ddatrys heriau gramadegol.
Gallu digidol Prosesu geririau a defnyddio meddalwedd i baratoi a chyflwyno gwaith
Myfyrdod Bydd myfyrwyr yn adfyfyrio ar eu cynnydd ieithyddol yn ystod y modiwl.
Sgiliau Pwnc-benodol Gwybodaeth arbenigol o ierfa a gramadeg yr Wyddeleg

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a Lefel 5