天天福利看片

Gwybodaeth am Fodiwlau

Cod y Modiwl
MT25220
Teitl y Modiwl
Cyflwyniad i Ddadansoddiad Rhifiadol a'i Gymwysiadau
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Pre-Requisite
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr 听 Supplementary Exam听 2 Awr听 100%
Arholiad Semester 2 Awr 听 Arholiad Ysgrifenedig听 2 Awr听 50%
Asesiad Semester Aseiniadau semester 2听 20%
Asesiad Semester Taflenni gwaith semester 1听 30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Arddangos gallu i ysgrifennu rhaglenni byr yn Python

Arddangos ymwybyddiaeth o ymarfer da wrth ddatblygu rhaglenni cyfrifiadurol ar gyfer cyfrifiant rhifiadol

Llunio polynomial neu sblein sy'n rhyngosod set o ddata

Deillio a chymhwyso dulliau rhifiadol safonol ar gyfer integru, a dadansoddi cyfeiliornad y dulliau yma

Darganfod isradd (au) hafaliad aflinol gan ddefynyddio dulliau rhifiadol safonol, ac arddangos ymwybyddiaeth o drefn cydgyfeiriant y dulliau yma

Cyfrifo brasamcanion rhifiadol o ddatrysiadau i broblemau gwerth cychwynnol gan ddefynddio dulliau un cam, ac arddangos ymwybyddiaeth o gydgyfeiriant a sefydlogrwydd y dulliau yma.

Disgrifiad cryno

Yn aml, mae'n amhosib darganfod datrysiad manwl gywir i broblem fathemategol gan ddefnyddio technegau arferol. Yn yr achosion hyn, yr unig beth amdani yw defnyddio technegau rhifiadol a chyfrifiadur. Mae dadansoddiad rhifiadol yn ymwneud a datblygu a dadansoddi'r dulliau ar gyfer datrysiadau rhifiadol i broblemau ymarferol. Bydd y cwrs hwn yn cynnig cyflwyniad i'r iaith raglennu Python, ac yn fwy eang, y stac Python Gwyddonol. Bydd yna鈥檔 cyflwyno technegau o amcancyfrif rhifiadol mewn problemau mathemategol yn ogystal 芒 dadansoddiad o鈥檙 technegau, gan ddefnyddio Python er mwyn cynnig cymhwysiadau ymarferol o鈥檙 dulliau rhifiadol.

Nod

Yn aml, mae'n amhosib darganfod datrysiad manwl gywir i broblem fathemategol gan ddefnyddio technegau arferol. Yn yr achosion hyn, yr unig beth amdani yw defnyddio technegau rhifiadol a chyfrifiadur. Mae dadansoddiad rhifiadol yn ymwneud a datblygu a dadansoddi'r dulliau ar gyfer datrysiadau rhifiadol i broblemau ymarferol. Bydd y cwrs hwn yn cynnig cyflwyniad i'r iaith raglennu Python, ac yn fwy eang, y stac Python Gwyddonol. Bydd yna鈥檔 cyflwyno technegau o amcancyfrif rhifiadol mewn problemau mathemategol yn ogystal 芒 dadansoddiad o鈥檙 technegau, gan ddefnyddio Python er mwyn cynnig cymhwysiadau ymarferol o鈥檙 dulliau rhifiadol.

Cynnwys

Semester 1:

1. CYFLWYNIAD I PYTHON: Mathau, newidynnau, gosodiadau 鈥渋f鈥, 鈥渇or鈥 a 鈥渨hile鈥. Y dehonglydd ac enrhifiad o fynegiadau syml. Golygu, arbed a llwytho cod.

2. STRWYTHURAU DATA YN PYTHON: Rhestrau ac araeau numpy.

3. FFWYTHIANNAU YN PYTHON. Diffinio a galw ffwythiant.

4. TREFNU COD PYTHON. Cynhyrchu dogfennaeth, darganfod a delio ag eithriadau, trefnu cod i fodiwlau.

5. PLOTIO YN PYTHON: Trin data a plotio canlyniadau

Semester 2:

1. RHYNGOSODIAD POLYNOMIAL: Fformiwla Lagrange. Fformiwla Newton a gwahaniaethau rhaniedig. Fformiwla gwahaniaethau ymlaen. Cyfeiliornad rhyngosodiad. Rhyngosodiad sblein giwbig.

2. INTEGRU RHIFIADOL: Rheol trapesoidaidd. Rheol Simpson. Rheolau integru cyfansawdd. Cyfeiliornad integru rhifiadol. Integru Romberg. Rheolau integru math Gauss.

3. DATRYSIAD I HAFALIADAU AFLINOL MEWN UN NEWIDYN: Dull dwyrannu. Dulliau pwynt sefydlog a mapiadau cyfangu. Dull Newton. Trefn cydgyfeiriant.

4. PROBLEMAU GWERTH CYCHWYNNOL: Bodolaeth ac unigrywedd datrysiadau. Dull Euler. Cyfeiliornad blaendoriad lleol. Cysondeb. Cydgyfeiriant. Sefydlogrwydd. Dulliau un-cam cyffredin. Dull trapesoidaidd. Dulliau rhagfynegi a chywiro

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae'n rhaid i atebion ysgrifenedig i ymarferion a dogfennaeth cod fod yn glir ac wedi'i strwythuro'n dda. Mae sgiliau gwrando da yn hanfodol i gynnydd llwyddiannus yn y cwrs.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd cwblhau tasgau (taflenni gwaith a thaflenni problemau) erbyn y dyddiadau cau yn hybu datblygiad personol. Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau rhaglennu sydd 芒 galw mawr amdanynt.
Datrys Problemau Bydd ymarferion yn cael eu gosod a'u marcio. Bydd y rhain yn cynnwys deillio a cymhwyso dulliau rhifiadol a gwerthuso'u cyfeilornad.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddatblygu eu dull eu hunain tuag at reoli amser er mwyn cwblhau gwaith mewn pryd, ac er mwyn gwneud y gwaith paratoi angenrheidiol rhwng darlithoedd a gweithdai. Dylent weithredu ar adborth, er enghraifft yr adborth yn y gweithdai ymarferol a roddir gan arddangoswyr ac adborth y darlithwyr wrth farcio gwaith.
Rhifedd Angenrheidol trwy gydol y modiwl.
Sgiliau pwnc penodol Sgiliau rhaglennu, sgiliau dadfygio, sgiliau rhifedd, sgiliau dadansoddi rhifiadol.
Sgiliau ymchwil Defnyddio cyfrifiadur. Chwilio trwy ddogfennaeth iaith a鈥檙 llyfrgell.
Technoleg Gwybodaeth Gosodir ymarferion i fyfyrwyr mewn gweithdai sy'n cynnwys datblygu cod cyfrifiadurol. Bydd angen iddynt allu defnyddio cyfrifiaduron a chyfleusterau'r llyfrgell drwy gydol y modiwl.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a Lefel 5