天天福利看片

Module Information

Cod y Modiwl
AD34820
Teitl y Modiwl
Datblygiad Emosiynol a Chymdeithasol
Blwyddyn Academaidd
2025/2026
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 6 Awr 听 Poster (A3) ac amddiffyniad llafar (10 munud)听 6 Awr听 40%
Asesiad Ailsefyll Traethawd听 2400 o eiriau听 60%
Asesiad Ailsefyll Poster (A3) ac amddiffyniad llafar (10 munud)听 10 Munud听 40%
Asesiad Semester Traethawd听 2400 o eiriau听 60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dangos dealltwriaeth feirniadol o brif egwyddorion datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a鈥檜 heffaith ar ddysgu.

Deall y cysylltiad rhwng lles cymdeithasol ac emosiynol ac iechyd meddwl yn ystod plentyndod cynnar.

Adnabod y dangosyddion allweddol ar gyfer datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a鈥檜 defnyddio i gefnogi dysgu, iechyd meddwl a lles plant yn y dyfodol.

Disgrifiad cryno

Mae ymchwil cynnyddol yn cydnabod y sylfaen hanfodol sy'n gysylltiedig 芒 datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a sut mae profiadau plant yn y blynyddoedd cynnar yn llywio dysgu, datblygiad a chanlyniadau yn y dyfodol. Bydd amrywiaeth o benderfynyddion sy'n rhwystro datblygiad iach yn cael eu gwerthuso ar y cyd 芒 dangosyddion allweddol o ddatblygiad hapus, iach. Mae angen i ymarferwyr allu cefnogi dysgu cymdeithasol ac emosiynol plant a gweithredu dulliau addysgegol i adeiladu ac ymateb i gymdeithas amrywiol sy'n newid. Bydd meithrin sgiliau a chymwyseddau gydol oes wrth baratoi ar gyfer gwaith, ac i gryfhau gweithrediad cymdeithasol cadarnhaol yn cael sylw drwy archwilio tueddiadau a disgwyliadau cymdeithasol. Bydd polis茂au cenedlaethol a rhyngwladol yn cael eu harchwilio a'u gwerthuso ochr yn ochr 芒 theori ac ymarfer.

Cynnwys

Bydd y darlithoedd a鈥檙 seminarau yn seiliedig ar y pethau canlynol:

1. Cefnogi datblygiad corfforol, gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol I
2. Cefnogi datblygiad corfforol, gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol II
3. Iechyd Meddwl
4. Cerrig milltir, ffactorau risg a strategaethau
5. Canlyniadau Cadarnhaol a Safbwyntiau Rhyngwladol
6. Partneriaethau
7. Meithrin perthynas gadarnhaol
8. Yr amgylchedd
9. Asesu datblygiad cymdeithasol ac emosiynol / Casglu data yn effeithiol
10. Monitro a gwerthuso darpariaeth

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae technegau cyfathrebu yn hanfodol. Cyfathrebu llafar fel rhan o'r asesiad, ac o fewn gweithgareddau gweithdy a seminar. Cyfathrebu ysgrifenedig drwy asesiadau ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i fyfyrio ar eu sgiliau a'u gwerthuso ac ystyried sut y gellir trosglwyddo sgiliau i amgylcheddau gwaith yn y byd go iawn.
Datrys Problemau Elfen hanfodol o鈥檙 broses o asesu鈥檔 feirniadol
Gwaith Tim Bydd gwaith t卯m, ar ffurf ymddygiadau proffesiynol allweddol a gweithdrefnau gweithio rhyngddisgyblaethol, yn sgil bwysig a fydd yn cael ei ddatblygu drwyddi draw.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Adborth ar gyfer yr aseiniad ysgrifenedig a myfyrio personol yn ystod tasgau seminar
Rhifedd Ystadegau disgrifiadol achlysurol mewn darlithoedd a ffynonellau.
Sgiliau pwnc penodol Bydd myfyrwyr yn cael eu herio a鈥檜 hannog i ddatblygu ystod o sgiliau proffesiynol.
Sgiliau ymchwil Mae angen ymchwil ar gyfer y prif asesiadau a bydd ei angen ar gyfer y tasgau seminar a gweithdy.
Technoleg Gwybodaeth Dylid geirbrosesu aseiniadau ysgrifenedig a bydd myfyrwyr yn defnyddio TGCh i wneud gwaith ymchwil.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a Lefel 6