Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Ailsefyll | Poster academaidd wedi'i anodi.听 4000 Words听 | 100% |
| Asesiad Semester | Poster academaidd wedi'i anodi.听 4000 Words听 | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Adnabod ac amddiffyn gwerth cydweithredu 芒 chydweithwyr, dysgwyr, rhieni a rhanddeiliaid eraill er mwyn datblygu dysgu鈥檙 holl bobl ifanc.
Arfer eu cyfrifoldebau cytundebol, bugeiliol, cyfreithiol a phroffesiynol er mwyn diwallu anghenion pob dysgwr a sicrhau ei fod yn cyflawni ei botensial mwyaf.
Rheoli eu lles eu hunain yn ogystal 芒 datblygu eu gallu i gyfrannu at les ac amddiffyn y dysgwyr yn eu gofal.
Dadansoddi a gwerthuso鈥檔 feirniadol eu gwerthoedd a鈥檜 credoau eu hunain yngl欧n 芒 dysgu ac addysgu er mwyn datblygu鈥檔 ymarferydd myfyriol.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar gyfleoedd a phwrpas ymgysylltu cydweithredol mewn ymarfer proffesiynol. Bydd y modiwl yn ystyried y dystiolaeth ryngwladol o ran gwahanol fathau o gydweithredu proffesiynol a'i effaith ar ddysgwyr. Bydd y modiwl yn ategu pwysigrwydd creu amgylcheddau dysgu effeithiol lle mae pob dysgwr yn teimlo'n ddiogel ac yn gallu datblygu i'w botensial llawn. Bydd y model yn annog myfyrwyr i fyfyrio'n feirniadol ar eu hymarfer proffesiynol ac i nodi strategaethau effeithiol sy'n cefnogi lles, diogelu ac anghenion ehangach eu dysgwyr. Bydd y modiwl yn ystyried materion cynwysoldeb, tegwch a lles myfyrwyr a sut y gellir manteisio i'r eithaf ar y rhain drwy ddulliau ymarfer proffesiynol cydweithredol.
Nod
Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth feirniadol o werth a phwrpas gweithwyr proffesiynol yn cydweithredu i godi safonau ar gyfer pob myfyriwr. Mae'n canolbwyntio ar gyfleoedd a phwrpasau ymgysylltu cydweithredol mewn ymarfer proffesiynol ac yn ystyried y dystiolaeth ryngwladol ynghylch gwahanol fathau o gydweithredu proffesiynol a'r effaith ganlyniadol ar ddysgwyr. Nod y modiwl yw cydgrynhoi sut y mae modd manteisio i'r eithaf ar faterion cynwysoldeb, tegwch a lles myfyrwyr drwy ddulliau cydweithredol o ymarfer proffesiynol.
Cynnwys
- Sefydlu a gwerthuso mathau o gydweithredu a dysgu mewn t卯m gyda'r nod o gefnogi dysgu, gwybodaeth a phroffesiynoldeb.
- Ymgysylltu ag egwyddorion gwella a鈥檜 gwerthuso er mwyn datblygu ysgol a phroffesiynol parhaus.
- Casglu tystiolaeth a defnyddio data i ddatblygu a llywio ymarfer proffesiynol i godi safonau.
- Effaith cydweithredu rhyngbroffesiynol /dysgu mewn t卯m a rhwydweithiau i ymateb i heriau a chyfleoedd sydd 芒'r nod o wella dysgu ac addysgu.
- Ymarferion proffesiynol sy'n mynd i'r afael 芒 lles a chyfrifoldebau diogelu dysgwyr a staff fel ei gilydd.
- Sgiliau ymarfer myfyrio鈥檔 feirniadol i werthuso gwerthoedd, credoau a thybiaethau y myfyrwyr eu hunain ynghylch gwella arfer yn yr ystafell ddosbarth.
- Yr wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth feirniadol i ddatblygu dulliau cynhwysol o ddysgu ac addysgu.
- Datblygu strategaethau i ddiwallu anghenion pob dysgwr a darparu rhwydweithiau cefnogi effeithiol mewn system sy'n hunanwella.
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Addasrwydd a gwydnwch | Parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a鈥檜 dealltwriaeth, a datblygu sgiliau newydd i safon uchel. Bwriad holl gynnwys y modiwl yw herio myfyrwyr i ailystyried yr hyn y maent yn credu eu bod yn ei wybod, mabwysiadu meddylfryd beirniadol a bod yn barod i addasu鈥檙 hyn y maent yn ei wneud yng ngoleuni鈥檙 wybodaeth a鈥檙 ddealltwriaeth newydd y maent yn eu cael yn ystod y modiwl. |
| Cyfathrebu proffesiynol | Ymdrin 芒 materion cymhleth mewn modd systematig a chreadigol, llunio barn gadarn heb ddata cyflawn, a chyfleu eu casgliadau鈥檔 glir i gynulleidfaoedd arbenigol a rhai nad ydynt yn arbenigol. |
| Datrys Problemau Creadigol | Arddangos hunangymhelliant a gwreiddioldeb wrth ymdrin 芒 phroblemau a鈥檜 datrys a gweithredu鈥檔 annibynnol wrth gynllunio a chyflawni tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol. |
| Meddwl beirniadol a dadansoddol | Dealltwriaeth gysyniadol sy鈥檔 galluogi鈥檙 myfyriwr: - i werthuso鈥檔 feirniadol ymchwil ac ysgolheictod uwch presennol yn y ddisgyblaeth - i werthuso dulliau, datblygu beirniadaethau ohonynt, a phan fo鈥檔 briodol, cynnig damcaniaethau newydd. |
| Sgiliau Pwnc-benodol | Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu ddirnadaeth newydd, gyda llawer o hyn yn waith blaengar yn eu disgyblaeth academaidd, maes astudio neu faes ymarfer proffesiynol, neu鈥檔 cael ei lywio gan hynny. Caiff myfyrwyr eu hasesu am eu gwybodaeth a鈥檜 hymwybyddiaeth feirniadol yn ymwneud 芒 phwnc y modiwl. Bydd disgwyl i bob myfyriwr gysylltu hyn 芒鈥檜 harfer eu hunain. |
| Synnwyr byd go iawn | Bydd gan y rhai sydd 芒鈥檙 cymhwyster y rhinweddau a鈥檙 sgiliau trosglwyddadwy sy鈥檔 angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sy鈥檔 gofyn am y canlynol: - cymhelliant a chyfrifoldeb personol - y gallu i wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy - y gallu sydd ei angen i ddysgu鈥檔 annibynnol |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a Lefel 7
