Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Ailsefyll | Ymateb adfyfyriol, academaidd听 4000 Words听 | 100% |
| Asesiad Semester | Ymateb adfyfyriol, academaidd听 4000 Words听 | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Nodi鈥檙 modelau, y dulliau a鈥檙 arferion sydd eu hangen i arwain a rheoli gweithwyr addysg proffesiynol.
Gwerthuso damcaniaethau arweinyddiaeth gydweithredol a gwasgaredig a sut y maent yn sail i arwain dysgu proffesiynol yn effeithiol.
Gwerthuso鈥檔 feirniadol yr arferion sy鈥檔 gysylltiedig ag arwain a rheoli gweithwyr addysg proffesiynol yn effeithiol mewn gwahanol leoliadau addysg.
Gwerthuso鈥檔 feirniadol y dystiolaeth ryngwladol sy鈥檔 ymwneud ag arweinyddiaeth system, arweinyddiaeth ganol, arweinyddiaeth ar y cwricwlwm, arweinyddiaeth athrawon ac arwain dysgu proffesiynol.
Archwilio鈥檔 feirniadol y berthynas rhwng gofynion polisi lleol/cenedlaethol a鈥檙 arfer o arwain a rheoli eraill.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar y modelau, y dulliau a'r arferion sydd eu hangen i arwain a rheoli gweithwyr addysg proffesiynol yn effeithiol. Mae'n archwilio'r arferion sy'n gysylltiedig ag arwain a rheoli gweithwyr addysg proffesiynol, mewn gwahanol leoliadau addysg, drwy dynnu'n benodol ar y sylfaen dystiolaeth ryngwladol sy'n ymwneud ag arweinyddiaeth system, arweinyddiaeth ganol, arweinyddiaeth ar y cwricwlwm, arweinyddiaeth athrawon ac arwain dysgu proffesiynol. Bydd y modiwl yn ystyried damcaniaethau arweinyddiaeth gydweithredol a gwasgaredig mewn cysylltiad ag arwain a rheoli gweithwyr proffesiynol eraill. Bydd hefyd yn ystyried y berthynas rhwng gofynion polisi lleol a chenedlaethol a'r arfer o arwain a rheoli gweithwyr addysg proffesiynol, yn enwedig o ran gwireddu arweinyddiaeth systemau mewn gwahanol wledydd a chyd-destunau.
Nod
Gwerthuso'r arferion sy'n gysylltiedig ag arwain a rheoli gweithwyr proffesiynol yn effeithiol mewn gwahanol leoliadau addysg.
Archwilio'r seiliau tystiolaeth rhyngwladol sy'n ymwneud ag arweinyddiaeth system, arweinyddiaeth ganol, arweinyddiaeth ar y cwricwlwm, arweinyddiaeth athrawon ac arwain dysgu proffesiynol.
Archwilio'r berthynas rhwng gofynion polisi lleol a chenedlaethol a'r arfer o arwain a rheoli eraill.
Cynnwys
Bydd cynnwys y modiwl yn ymdrin 芒'r dulliau a'r arferion sydd eu hangen i arwain a rheoli gweithwyr addysg proffesiynol mewn gwahanol leoliadau a chyd-destunau. Bydd yn canolbwyntio ar yr arferion sy'n gysylltiedig ag arwain a rheoli gweithwyr addysg proffesiynol yn effeithiol mewn gwahanol leoliadau addysg. Bydd y modiwl yn archwilio damcaniaethau arweinyddiaeth gydweithredol a gwasgaredig ac yn archwilio sut y maent yn sail i arwain dysgu proffesiynol yn effeithiol. Bydd y modiwl yn ymdrin 芒'r sylfaen dystiolaeth ryngwladol sy'n ymwneud ag arweinyddiaeth system, arweinyddiaeth ganol, arweinyddiaeth ar y cwricwlwm, arweinyddiaeth athrawon ac arwain dysgu proffesiynol. Bydd y modiwl yn canolbwyntio'n benodol ar ddamcaniaethau arweinyddiaeth gydweithredol a gwasgaredig i archwilio ffyrdd o arwain a rheoli eraill yn gynhyrchiol ac yn effeithiol. Bydd y model hefyd yn edrych ar y dylanwadau polisi ehangach ar y rhai sy'n arwain ac yn rheoli eraill mewn gwahanol leoliadau addysg drwy ystyried pethau o safbwynt beirniadol a chymharol.
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Addasrwydd a gwydnwch | Parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a鈥檜 dealltwriaeth, a datblygu sgiliau newydd i safon uchel. Bwriad holl gynnwys y modiwl yw herio myfyrwyr i ailystyried yr hyn y maent yn credu eu bod yn ei wybod, mabwysiadu meddylfryd beirniadol a bod yn barod i addasu鈥檙 hyn y maent yn ei wneud yng ngoleuni鈥檙 wybodaeth a鈥檙 ddealltwriaeth newydd y maent yn eu cael yn ystod y modiwl. |
| Cyfathrebu proffesiynol | Ymdrin 芒 materion cymhleth mewn modd systematig a chreadigol, llunio barn gadarn heb ddata cyflawn, a chyfleu eu casgliadau鈥檔 glir i gynulleidfaoedd arbenigol a rhai nad ydynt yn arbenigol. |
| Datrys Problemau Creadigol | Arddangos hunangymhelliant a gwreiddioldeb wrth ymdrin 芒 phroblemau a鈥檜 datrys a gweithredu鈥檔 annibynnol wrth gynllunio a chyflawni tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol. |
| Meddwl beirniadol a dadansoddol | Dealltwriaeth gysyniadol sy鈥檔 galluogi鈥檙 myfyriwr: - i werthuso鈥檔 feirniadol ymchwil ac ysgolheictod uwch presennol yn y ddisgyblaeth - i werthuso dulliau, datblygu beirniadaethau ohonynt, a phan fo鈥檔 briodol, cynnig damcaniaethau newydd. |
| Sgiliau Pwnc-benodol | Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu ddirnadaeth newydd, gyda llawer o hyn yn waith blaengar yn eu disgyblaeth academaidd, maes astudio neu faes ymarfer proffesiynol, neu鈥檔 cael ei lywio gan hynny. Caiff myfyrwyr eu hasesu am eu gwybodaeth a鈥檜 hymwybyddiaeth feirniadol yn ymwneud 芒 phwnc y modiwl. Bydd disgwyl i bob myfyriwr gysylltu hyn 芒鈥檜 harfer eu hunain. |
| Synnwyr byd go iawn | Bydd gan y rhai sydd 芒鈥檙 cymhwyster y rhinweddau a鈥檙 sgiliau trosglwyddadwy sy鈥檔 angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sy鈥檔 gofyn am y canlynol: - cymhelliant a chyfrifoldeb personol - y gallu i wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy - y gallu sydd ei angen i ddysgu鈥檔 annibynnol |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a Lefel 7
