天天福利看片

Module Information

Cod y Modiwl
BG26020
Teitl y Modiwl
Monitro a Microbioleg Amgylcheddol
Blwyddyn Academaidd
2025/2026
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr 听 Arholiad ail-eistedd听 Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o鈥檙 asesiad sy鈥檔 cyfateb i鈥檙 rhai a arweiniodd at fethu鈥檙 modiwl. 2 Awr听 60%
Arholiad Semester 2 Awr 听 Arholiad ar bapur听 2 Awr听 60%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad ail-eistedd听 Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o鈥檙 asesiad sy鈥檔 cyfateb i鈥檙 rhai a arweiniodd at fethu鈥檙 modiwl. 2000 o eiriau听 40%
Asesiad Semester Adroddiad ymarferol a dadansoddi data听 (2000 gair, gan gynnwys dadansoddiad o ddata)听 40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Esbonio鈥檙 rhan a chwaraeir gan wahanol ficrobau yn y cylchredau bioddaeargemegol allweddol (carbon, nitrogen a ffosfforws).

Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth a gedwir o鈥檙 modd y mae gwahanol grwpiau o ficrobau鈥檔 rhyngweithio 芒鈥檌 gilydd ac ag organebau uwch eraill.

Dangos gwybodaeth a gedwir yngl欧n 芒 sut i ymchwilio i gynefinoedd naturiol a sut y mae dulliau ymchwil yn wahanol i ddulliau monitro arferol.

Defnyddio sgiliau TG i ddadansoddi a chloriannu llenyddiaeth ac arbrofion.

Disgrifiad cryno

Bydd y darlithoedd a鈥檙 sesiynau ymarferol yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch y rhan a chwaraeir gan ficrobau mewn ecosystemau tirol a dyfrol, gan ganolbwyntio ar eu pwysigrwydd mewn cylchredau bioddaeargemegol. Bydd y modiwl hefyd yn edrych ar y methodolegau a ddefnyddir i astudio鈥檙 organebau hyn, y cylchredau y maent yn dylanwadu arnynt ac amodau ecosystem ehangach yng nghyd-destun safonau amgylcheddol.

Nod y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i ddamcaniaethau ac arferion y cylchredau maethol creiddiol sy鈥檔 seiliedig ar ficrobau mewn cynefinoedd tirol a dyfrol. Yn ogystal 芒 disgrifio cylchredau bioddaeargemegol yn y cynefinoedd hyn, a鈥檙 microbau perthnasol, bydd y modiwl hefyd yn trafod y dulliau a ddefnyddir i ganfod/monitro gweithgarwch microbau, biomas a bioamrywiaeth. Ystyrir hefyd y dulliau a ddefnyddir i fonitro statws a lefelau llygredd ecosystemau, a鈥檜 r么l o safbwynt canfod dirywiad amgylcheddol yn gynnar. Esbonnir yr angen i sicrhau bod y dulliau a ddefnyddir i fonitro newidiadau o鈥檙 fath yn ailadroddadwy, yn gywir ac wedi鈥檜 cysylltu 芒 rheoliadau statudol. Bydd darlithoedd ar fethodoleg yn ategu cyfres o ddosbarthiadau ymarferol.

Cynnwys

Darlithoedd
Bydd y darlithoedd cychwynnol yn trafod y cylchredau bioddaeargemegol allweddol (C,N, P), amrywiaeth biocemegol a genetig o fewn Bacteria/Archaea, r么l ffyngau mewn dirywiad ligoselwlos, cysylltiadau rhwng microbau mewn llynnoedd/nentydd, r么l ffyngau wrth brosesu malurion mewn nentydd, cynhyrchedd cynradd mewn cynefinoedd eigionol, cysylltiadau rhwng microbau ac anifeiliaid, a rhwng microbau a phlanhigion. Asesir dulliau mewn ecoleg microbau (biocemegol/molecylaidd), a fydd yn arwain at ddisgrifiad o dechnegau monitro amgylcheddol ehangach. Ystyrir y cysylltiad rhwng y technegau hyn a鈥檙 broses o osod safonau i ddiogelu鈥檙 amgylchedd. Trafodir rhinweddau cymharol cynnal profion biolegol a chemegol o amodau amgylcheddol.

Aseiniad Traethawd
Bydd cyflwyno traethawd ar astudiaethau achos penodol mewn ecoleg microbau yn rhan o asesiad y modiwl hwn. Bydd hyn yn darparu鈥檙 cyfle i fyfyrwyr ganolbwyntio eu hymchwil personol ar weithrediad ecosystem penodol (dilychwin neu ddiraddedig).
Dosbarthiadau Ymarferol
Bydd cyfres o ddosbarthiadau ymarferol yn trafod profion microbiolegol a chemegol a ddefnyddir wrth asesu ansawdd ecosystemau.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Cyfathrebu ysgrifenedig yn ystod ysgrifennu鈥檙 traethawd, yr adroddiad ymarferol a鈥檙 arholiad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ni fydd yn cael ei ddatblygu鈥檔 benodol, ond ceir llu o gyfleoedd cyflogaeth ym maes monitro amgylcheddol.
Datrys Problemau Gwneir hyn trwy ddadansoddi data o鈥檙 sesiynau ymarferol.
Gwaith Tim Yn ystod y dosbarthiadau ymarferol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Darperir adborth ar waith cwrs (ar-lein ac ar lafar), yn ogystal 芒 sesiynau adolygu ar gyfer yr arholiadau.
Rhifedd Gwneir hyn trwy ddadansoddi data o鈥檙 dosbarthiadau ymarferol.
Sgiliau pwnc penodol Mae鈥檙 modiwl yn trafod damcaniaethau ac arferion sawl dull allweddol ym maes monitro amgylcheddol.
Sgiliau ymchwil Gwneir hyn drwy ymchwilio ar-lein ar gyfer y traethawd.
Technoleg Gwybodaeth Gwneir hyn trwy ymchwilio ar-lein ar gyfer aseiniad y traethawd a thrwy ddadansoddi data o鈥檙 dosbarthiadau ymarferol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a Lefel 5