ÌìÌ츣Àû¿´Æ¬

Module Information

Module Identifier
CB25320
Module Title
Dulliau Ymchwil
Academic Year
2025/2026
Co-ordinator
Semester
Semester 2
Pre-Requisite
Reading List
Other Staff

Course Delivery

Ìý

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Traethawd 1Ìý (2,500 gair) Adolygiad o lenyddiaethÌý 50%
Semester Assessment Traethawd 2Ìý (2,500 gair) Dulliau YmchwilÌý 50%
Supplementary Assessment Traethawd 1Ìý (2,000 gair) Adolygiad o lenyddiaethÌý 50%
Supplementary Assessment Traethawd 2Ìý (2,000 gair) Dulliau YmchwilÌý 50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. Dangos dealltwriaeth o natur a phwysigrwydd ymchwil mewn cyd-destun busnes a rheolaeth neu farchnata.

2. Dangos dealltwriaeth o wahanol ddulliau ymchwil, a’r gwahaniaethu rhyngddynt, gan gloriannu’n feirniadol oblygiadau moesegol pob un.

3. Canfod, dadansoddi a chloriannu testunau sy’n berthnasol i bwnc ymchwil penodol.

4. Dangos dealltwriaeth o wahanol ffyrdd o gasglu data cynradd ac eilaidd, gan nodi a chloriannu cyfyngiadau a manteision y gwahanol ddulliau.

5. Dangos dealltwriaeth o ffyrdd o ddadansoddi a chloriannu data gan ddefnyddio dulliau a thechnegau amrywiol.

6. Cyfleu casgliadau prosiect ymchwil yn briodol.

Brief description

Mae’r modiwl hwn yn trafod sgiliau ymchwil ac mae’n gyfle i astudio dulliau ymchwil yn ymwneud â busnes mewn dyfnder. Mae’r modiwl yn pwysleisio pwysigrwydd ymagwedd wrthrychol tuag at ymchwil. Mae’r modiwl hefyd yn cyflwyno ymarfer ymchwil, gan gynnwys moeseg a methodoleg, gan ddefnyddio dulliau ymchwil ansoddol yn ogystal â meintiol.

Content

ï‚· Cyflwyniad i Ddulliau Ymchwil
ï‚· Ffurfio Cwestiynau Ymchwil
ï‚· Dulliau Ymchwil ar gyfer adolygu testunau cyfredol
ï‚· Dylunio Ymchwil Ansoddol
ï‚· Dylunio Ymchwil Meintiol
ï‚· Dulliau Cymysg ar gyfer Dylunio Ymchwil
ï‚· Casglu a Dadansoddi Data Ansoddol
ï‚· Casglu a Dadansoddi Data Meintiol
ï‚· Goblygiadau Rheolaethol, Cyfyngiadau Ymchwil ac Ystyriaethau Moesegol

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Cyfleoedd i ddefnyddio technegau meintiol sy’n briodol i’r pwnc a ddewiswyd
Communication Darllen ac ysgrifennu mewn gwahanol gyd-destunau ar gyfer cynulleidfaoedd a dibenion gwahanol.
Improving own Learning and Performance Sgiliau trefnu ac ymchwil; datblygu eu harddull dysgu eu hunain, eu hoffterau a’u hanghenion, a sut i ddysgu’n annibynnol.
Information Technology Defnyddio’r rhyngrwyd i ddod o hyd i ddeunydd cyfeiriol priodol; defnyddio technoleg gwybodaeth wrth ddadansoddi data ac wrth baratoi a chyflwyno adroddiad
Personal Development and Career planning Hunan-reoli, blaengaredd, annibyniaeth a hunan-ymwybyddiaeth.
Problem solving Nodi problemau a ffactorau a allai ddylanwadu ar ddatrysiadau posibl; datblygu ffyrdd o ddatrys problemau trwy feddwl yn greadigol. Cloriannu manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol mewn ymateb i broblem.
Research skills Canfod, dethol a chymhathu gwybodaeth o ffynonellau a
Subject Specific Skills Cymhwyso sgiliau ansoddol a/neu meintiol i sefyllfaoedd rheoli penodol a’r amgylchedd busnes presennol.
Team work Bydd y seminarau/darlithoedd yn cynnwys ymarferion grŵp.

Notes

This module is at Level 5