天天福利看片

Module Information

Cod y Modiwl
CB38000
Teitl y Modiwl
Sgiliau Cyflogadwyedd ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol
Blwyddyn Academaidd
2025/2026
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad Pwerbwynt wedi ei drosleisio听 10 Munud听 30%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad terfynol听 2000 o eiriau听 70%
Asesiad Semester Adroddiad terfynol听 2000 o eiriau听 70%
Asesiad Semester Cyflwyniad Pwerbwynt wedi ei drosleisio听 10 Munud听 30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Gweithredu gwybodaeth a datblygu dealltwriaeth o Fusnes a Rheolaeth yn ymarferol.

2. Adnabod tasgau ac anawsterau sy鈥檔 berthnasol i鈥檙 sefydliad a hwyluso canlyniadau pwrpasol.

3. Gwerthuso eu perfformiad eu hunain a chynyddu eu hymwybyddiaeth o鈥檜 sgiliau eu hunain.

4. Gweithredu ynghyd ag unigolion a grwpiau o fewn y sefydliad.

5. Datblygu鈥檙 gallu i fyfyrio ar wybodaeth a phrofiadau a gawsant yn ystod y profiad gwaith.

6. Cyflwyno syniadau yn effeithiol yn ysgrifenedig ac ar lafar.

7. Cyfathrebu a chyd-weithio yn effeithiol gyda chyfoedion a gyda ystod eang o unigolion o fewn y lleoliad profiad gwaith.

8. Datbygu eu gallu mewn ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy sy鈥檔 cynnwys darllen, cymathu, archwilio a beirniadu systemau cymleth cyfundrefnol neu sefydliadol.

9. Datblygu鈥檙 gallu i cyfathrebu gwybodaeth academaidd mewn lleoliad ymarferol gan ddefnyddio dulliau addas i鈥檙 lleoliad gan gynnwys cyfathrebu ar lafar, trwy ysgrifen neu ddulliau electroneg.

Disgrifiad cryno

Mae鈥檙 modiwl yma yn darparu profiad penodol ac ymarferol yn y gweithle a fydd yn ychwanegu at ragolygon myfyrwyr ar gyfer eu cyflogadwyedd yn y dyfodol mewn meysydd dewisiol. Mae鈥檔 cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr weithio o fewn sefydliadau masnachol, llywodraeth, awdurdod lleol neu mewn sefydliad elusennol. Gall myfyrwyr weithredu yn ystyrlon i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd tra鈥檔 cyfrannu yn arwyddocaol at waith y sefydliad. Mae鈥檔 ofynnol i fyfyrwyr adlewyrchu鈥檔 feirniadol ar eu datbygiad proffesiynol a鈥檜 datblygiad personol. Ni ellir sicrhau lle ar y modiwl ar gyfer unrhyw fyfyriwr a gellir cynnal cyfweliadau er mwyn cynnig llefydd.

Nod

-

Cynnwys

Dysgir y modiwlau tros ddau semestr. Dysgir y modiwl trwy brofiad gwaith ac yn ystod 8 seminar o 1 awr yr un. Disgwylir i鈥檙 profiad gwaith gymeryd lle yn rheolaidd e.e. dydd Mercher am 7 awr. Cyd-lynydd y modiwl fydd yn trefnu鈥檙 profiad gwaith gan amlaf ond gall myfyrwyr ddod o hyd i鈥檞 profiad gwaith ei hunain yn ystod gwyliau鈥檙 haf cyn iddynt ddechrau eu trydydd flwyddyn, cyn belled eu bod wedi llwyddo yn yr ail flwyddyn, neu gallant gwblhau鈥檙 profiad gwaith yn ystod gwyliau鈥檙 Nadolig wedi iddynt ddechrau鈥檙 modiwl. Mae鈥檔 angenrheidiol fod Cyd-lynydd y modiwl yn cymeradwyo鈥檙 profiad gwaith ymlaen llaw. Er mwyn i鈥檙 profiad gwaith gael ei gymeradwyo mae鈥檔 rhaid i鈥檙 myfyrwyr gwblhau o leiaf 112 awr o waith. Ni chaiff myfyrwyr dreulio mwy na mwyafrif o 126 awr ar brofiad gwaith. Ni chaniateir gwyriad o鈥檙 nifer o oriau heblaw fod y Cyd-lynydd wedi caniatau hynny. Disgwylir i鈥檙 myfyrwyr ymgymeryd mewn gwaith ymchwil ar gyfer paratoi ac ysgrifennu adroddiad o 3,000 o eiriau. Dylai鈥檙 adroddiad am y profiad gwaith asesu dealltwriaeth myfyrwyr o鈥檙 projectau maent wedi bod yn ran ohonynt ac asesu eu gallu i fyfyrio ar y canlyniadau o鈥檙 profiad gwaith. Gall yr adroddiad fod ar ffurf traethawd academaidd am y profiad gwaith, h.y. nid yn unig yn cymeryd i ystyriaeth y tasgau a gwblhawyd ond adlewyrchiad academaidd beirniadol cryf sy鈥檔 pwysleisio鈥檙 cysylltiad rhwng y profiad gwaith a鈥檙 meysydd perthnasol a astudir.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Defnydd effeithiol o wahanol fathau o gyfathrebu, sy鈥檔 cynnwys yr adroddiad terfynol a鈥檙 cyflwyniad llafar. Yn ogystal a hyn, caiff cyfathrebu ar lafar ei annog a鈥檌 ddatblygu yn ystod trafodaethau rhyngweithiol mewn seminarau ac yn ystod rhyngweithio gyda chyd-weithwyr a chleientiaid/neu gleientiaid yn y lleoliad profiad gwaith.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd dysgu trwy gydol y modiwl yn arfogi鈥檙 myfyrwyr gyda鈥檙 gwybodaeth angenrheidiol, y sgiliau trosglwyddiadwy a鈥檙 hyder i lwyddo mewn ystod eang o yrfaoedd. Saif y modiwl yn gadarn ar gyfer ehangu dysgu鈥檙 myfyrwyr yn y meysydd hyn. Yn wir, dyna鈥檙 ethos sy鈥檔 sail i鈥檙 modiwl yma.
Datrys Problemau Yn ystod y Profiad Gwaith bydd yn rhaid i鈥檙 myfyrwyr ddatrus llawer o broblemau ymarferol a all godi a fydd yn cynyddu eu sgiliau datrus problemau ymarferol a beirniadol
Gwaith Tim Fel rheol, dibyna sefydliadau ar weithio fel tim felly bydd y modiwl, wrth reswm, yn cynyddu sgiliau gweithio mewn tim.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd derbyn asesiad fel canlyniad i鈥檙 adroddiad terfynol a鈥檙 cyflwyniad llafar yn cynyddu hunan-ymwybyddiaeth a鈥檙 gallu i hunan-fyfyrio yn feirniadaol.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Bydd datblygu sgiliau pynciol penodol yn agwedd ar gyfer pob myfyriwr ond bydd cynnwys ac ehangder y sgiliau yma鈥檔 dibynu ar y lleoliad profiad gwaith.
Sgiliau ymchwil Bydd sgiliau ymchwil myfyrwyr yn cael eu datblygu trwy eu defnydd o lenyddiaeth ymchwil.
Technoleg Gwybodaeth Ceir trwy weithgareddau yn ystod y profiad gwaith.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a Lefel 6