天天福利看片

Module Information

Cod y Modiwl
CC18120
Teitl y Modiwl
Sgiliau Astudio ar gyfer Cyfrifiadureg
Blwyddyn Academaidd
2025/2026
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Pre-Requisite
Ar gael i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru yn yr Adran Gyfrifiadureg yn unig
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll 2 Awr 听 Cwis Blackboard yn ystod y Tymor听 2 Awr听 40%
Asesiad Ailsefyll Traethawd听 1250 o eiriau听 60%
Asesiad Semester 20 Awr 听 Diwrnod o weithgareddau ar y penwythnos a chyflwyniad gr诺p听 Mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn diwrnod o weithgareddau ar y penwythnos lle maent yn cymryd rhan mewn gweithgareddau gr诺p. Ar sail hyn bydd y grwpiau yn paratoi ac yn cyflwyno cyflwyniad yn y tiwtorialau. Mae'r cyflwyniad gr诺p yn adlewyrchu ar y diwrnod o weithgaredd (gan gynnwys asesiad beirniad o berfformiad y myfyrwyr eu hunain) ac yn cynnwys y defnydd o ffigurau i gynrychioli data.听 60%
Asesiad Semester 2 Awr 听 Cwis Blackboard yn ystod y Tymor听 Cwis Blackboard yn ymdrin 芒 cheisiadau am swyddi (gan gynnwys ysgrifennu CV a llythyrau eglurhaol), yn ogystal 芒 chynrychioli data a defnyddio offer cyfrifiadurol 2 Awr听 40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Deall sut i ysgrifennu cais am swydd gan gynnwys CV priodol a llythyr eglurhaol

Arddangos sgiliau sylfaenol rheolaeth amser, gweithio mewn t卯m ac ysgrifennu academaidd

Adolygu'n feirniadol eu perfformiad eu hunain

Defnyddio offer cyfrifiadurol i gefnogi astudio yn y brifysgol

Dylunio a rhoi cyflwyniad

Gwybod am dechnegau hanfodol ar gyfer cyflwyno data

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn ymdrin ag ystod eang o bynciau sy'n anelu at naill ai ddatblygu sgiliau astudio perthnasol neu hybu datblygiad myfyrwyr fel gweithwyr proffesiynol ym maes Cyfrifiadureg. Mae'r pwyslais ar sgiliau personol trosglwyddadwy o werth cyffredinol. Mae'r diwrnod o weithgareddau ar y penwythnos wedi'i gynllunio i feithrin adeiladu cymuned yn y garfan a gwella sgiliau gweithio mewn t卯m, rhyngbersonol a chyfathrebu pob myfyriwr. Mae'n arwain i fyny at gyflwyniad gr诺p sy'n cynnwys cydran marcio cyfoedion i hybu galluoedd myfyrwyr i adolygu eraill yn feirniadol yn ogystal 芒'u perfformiad eu hunain.

Mae'r modiwl yn ystyried ystod o wahanol offer perthnasol gan gynnwys meddalwedd prosesu geiriau a chyflwyno. Mae ystyriaeth arbennig
yn cael ei roi i'r agwedd ar gyflwyniad priodol o ddata. Caiff pynciau eu harchwilio a'u cyflwyno mewn nifer o ddarlithoedd. Mae tiwtorialau wythnosol yn galluogi myfyrwyr i gymhwyso'r hyn y maent wedi'i ddysgu a datblygu ac ymarfer eu sgiliau.

Nod

Mae鈥檙 modiwl yn ymdrin 芒 deunydd nad yw鈥檔 cael sylw yn unman arall mewn modiwlau penodol ond sy鈥檔 hanfodol er mwyn cael gwerthfawrogiad mwy cyflawn o鈥檙 maes yn ei gyfanrwydd. Mae sgiliau trosglwyddadwy personol yn nodwedd bwysig i unrhyw wyddonydd cyfrifiadurol ac yn rhan hanfodol o'r modiwl hwn.

Cynnwys

Cynnwys
1) Bod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth (modiwlau, gweithgareddau addysgu, asesu; arfer academaidd da a drwg (gan gynnwys arfer academaidd annerbyniol); offer astudio digidol)
2) Astudio a chydweithio ag eraill (gweithio fel rhan o d卯m
(gan ystyried grwpiau hunan-drefnus a gorfodol); cydraddoldeb ac amrywioldeb)
3) Defnyddio gwaith eraill (chwilio llenyddiaeth; cyfeirnodi; defnyddio llyfrgelloedd codau)
4) Meddalwedd i greu cyflwyniadau (meddalwedd cyflwyno;
creu posteri)
5) Cyflwyno gwaith (ysgrifennu adroddiadau technegol; creu cyflwyniadau; cyflwyno data)
6) Meddalwedd i greu dogfennau (meddalwedd prosesu geiriau; meddalwedd paratoi dogfennau; offer cyfeirio)
7) Trefnu eich astudiaethau (cymryd nodiadau; rheolaeth amser)
8) Cyflogadwyedd (ysgrifennu cais am swydd; profiad gwaith a
datblygu sgiliau)
9) Paratoi ar gyfer asesiad (technegau paratoi ar gyfer arholiadau; cynllunio ar gyfer aseiniadau)
10) Cynllunio eich dyfodol (dewisiadau modiwl; gwaith prosiect)

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Cyfathrebu effeithiol fel rhan o d卯m; sgiliau ysgrifennu (ar gyfer ymgeisio am swydd); sgiliau cyflwyno; hanfodol i ddeilliannau dysgu 1:2:5
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Un o agweddau allweddol y modiwl; hanfodol ar gyfer canlyniad dysgu 1
Gwaith Tim Hanfodol ar gyfer y diwrnod o weithgareddau a chyflwyniad gr诺p; hanfodol ar gyfer canlyniad dysgu 2
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Hanfodol ar gyfer canlyniad dysgu 3
Sgiliau ymchwil Hanfodol ar gyfer canlyniadau dysgu 4:6
Technoleg Gwybodaeth Yn amlwg mewn sawl agwedd yn y modiwl; hanfodol ar gyfer deilliant dysgu 4-6

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a Lefel 4