Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Arholiad Ailsefyll | 2 Awr 听 Arholiad听 2 Awr听 | 60% |
| Arholiad Semester | 2 Awr 听 Arholiad听 2 Awr听 | 60% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd听 2000 o eiriau听 | 40% |
| Asesiad Semester | Traethawd听 2000 o eiriau听 | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Deall a thrafod prif nodweddion gwaith y Cywyddwyr Cynnar o ran cefndir, crefft, a chyd-destun hanesyddol.
Darllen a gwerthfawrogi yn annibynnol, yn ddeallus ac yn fanwl gywyddau o鈥檙 bedwaredd ganrif ar ddeg.
Deall a gwerthfawrogi y math o ddylanwadau a fu ar farddoniaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar ddeg.
Deall a thrafod yn ddeallus brif them芒u barddoniaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar ddeg yn gyffredinol, gan ymgydnabod 芒 nodweddion crefft ac arddull y cywydd deuair hirion, ac ambell nodwedd dechnegol fel crefft dyfalu.
Deall a dangos ymwybyddiaeth o鈥檙 ysgolheictod diweddaraf ym maes gwaith Dafydd ap Gwilym yn benodol gan eu cymhwyso at ymdriniaethau beirniadol 芒 barddoniaeth Gymraeg o gyfnodau diweddarach.
Disgrifiad cryno
Er mai ar waith Dafydd ap Gwilym y canolbwyntir yn bennaf, ceir astudiaeth o ddetholiad o gywyddau鈥檙 Cywyddwyr Cynnar gan sylwi ar nodweddion crefft ac arddull. Yn ogystal 芒 darllen a dehongli cywyddau penodol, bydd hefyd gyfle i ymdrin yn feirniadol 芒 rhai them芒u o fewn y cyd-destun hanesyddol.
Cynnwys
Darlithoedd 1-8:
Cyflwyniad i farddoniaeth y bedwaredd ganrif ar ddeg o safbwynt hanes y gyfundrefn farddol a hanes cymdeithasol Cymru.
Cyflwyniad i鈥檙 canu serch cyfandirol a鈥檌 ddylanwad ar farddoniaeth Gymraeg. Ystyried yr agweddau at ferched yn yr Oesau Canol diweddar.
Manylion bywgraffyddol am Ddafydd ap Gwilym a chyflwyniad i鈥檙 prif ymdriniaethau 芒鈥檌 waith.
Ymdriniaeth 芒 phwnc awduraeth cerddi鈥檙 bedwaredd ganrif ar ddeg.
Darlithoedd 9-20
Darllen yn fanwl a thrafod yn y dosbarth ddetholiad o gywyddau gan Ddafydd ap Gwilym, Iolo Goch, Madog Benfras, Llywelyn Goch Amheurig Hen a Gruffudd ab Adda ap Dafydd. Cymerir mwy o amser gydag ambell gerdd er mwyn ei dadansoddi a鈥檌 dehongli ymhellach gan ei chymharu a鈥檌 chyferbynnu 芒 cherdd arall.
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Mae cyfle mewn trafodwersi gyfraniadau llafar wrth ymateb i destun, ac i ddatblygu gallu ysgrifenedig i drafod a dehongli cerddi. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygir medrau trefnu amser a rheoli llif gwaith yn ogystal 芒 medrau dehongli beirniadol. |
| Datrys Problemau | Dan gyfarwyddyd mewn dosbarth datblygir gallu鈥檙 myfyrwyr i ddatrys problemau鈥檔 ymwneud 芒 darllen testunau barddoniaeth o鈥檙 bedwaredd ganrif ar ddeg. |
| Gwaith Tim | Bydd cyfle mewn trafodwers i drafod ar lefel gr诺p. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Drwy dderbyn adborth gan y darlithydd a thrwy ddysgu鈥檔 wythnosol fedru darllen testun yn fanwl. |
| Rhifedd | Mae gwybod am ddyddiadau cywir a chronoleg gywir yn hollbwysig. |
| Sgiliau pwnc penodol | Darllen testunau o gerddi鈥檙 bedwaredd ganrif ar ddeg yn ddeallus. |
| Sgiliau ymchwil | Datblygir y gallu i ymchwilio鈥檔 annibynnol ac i bwyso a mesur testunau a gwybodaeth feirniadol gynradd. |
| Technoleg Gwybodaeth | Bydd rhaid defnyddio鈥檙 We i ganfod nodiadau ac aralleiriadau o gerddi Dafydd ap Gwilym ar www.dafyddapgwilym.net, a rhai gwefannau perthnasol eraill. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a Lefel 5
