Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Ailsefyll | Prosiect听 3000 o eiriau听 | 70% |
| Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad ysgrifenedig听 (yn lle'r cyflwyniad llafar) 1000 o eiriau听 | 20% |
| Asesiad Ailsefyll | Adroddiad听 500 o eiriau听 | 10% |
| Asesiad Semester | Prosiect听 3000 o eiriau听 | 70% |
| Asesiad Semester | Adroddiad听 byr yn Semester 1 yn trafod un o'r teithiau maes. 500 o eiriau听 | 10% |
| Asesiad Semester | Cyflwyniad llafar听 10 Munud听 | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Meddu ar adnabyddiaeth o froydd Cymru a鈥檜 cysylltiadau llenyddol.
Dangos sgiliau ymchwilio a鈥檙 gallu i ddod o hyd i ddeunyddiau perthnasol.
Dangos dealltwriaeth o gydberthynas agweddau theoretig ac ymarferol wrth gynllunio sut i hybu ymwneud y cyhoedd ag etifeddiaeth ddiwylliannol y Cymry.
Gwneud defnydd pwrpasol o amrywiaeth o dechnegau wrth gynllunio a chynhyrchu deunyddiau o鈥檜 dewis eu hunain, ac wrth gyflwyno dehongliad i gynulleidfa fyw.
Disgrifiad cryno
Modiwl sy鈥檔 dysgu myfyrwyr am y gwahanol ffyrdd o ddehongli a chyflwyno etifeddiaeth lenyddol y Cymry ac elfennau eraill o鈥檙 diwylliant yn ehangach, a鈥檜 hyfforddi i gyfuno gwybodaeth, creadigrwydd a dyfeisgarwch i hybu diddordeb y cyhoedd.
Cynnwys
Yn Semester Un ceir 8 darlith yn cwmpasu'r elfennau hyn:
1. Cysyniadau (5 darlith): etifeddiaeth, treftadaeth; dyletswydd yr Academi i'r cyhoedd; hybu gweithgareddau llenyddol; adloniant v. addysg; swyddogaeth y cyfryngau a'r sefydliadau; amgueddfeydd, orielau; archifau ffilm a llun; llyfrgelloedd; CADW; Comisiwn Henebion; fframwaith y gyfraith; polisi cyhoeddus; asiantaethau; twristiaeth fewnol a thwristiaeth ddiwylliannol.
2. Hunaniaeth broydd Cymru (3 darlith): astudiaethau ar bedwar prosiect enghreifftiol yn cynnig ac yn trafod esiamplau o dechnegau y gellid eu defnyddio i godi ymwybyddiaeth, ac i danio diddordeb yn ll锚n a llenorion y prosiectau hynny.
3. Hefyd yn Semester Un bydd dwy daith maes leol.
Yn Semester Dau, bydd y myfyrwyr yn gweithio dan hyfforddiant (3 awr o ymgynghori unigol) ar brosiect sylweddol a fydd yn esgor ar ddarn gorffenedig o waith addas i'w gyhoeddi (e.e. llyfryn; teithlyfr manwl; testun ar gyfer podcast neu raglen radio; deunydd ar gyfer gwefan; ffilm fer).
Hefyd cynhelir cyfres o weithdai (4 awr) y bydd gofyn i'r myfyrwyr gyfrannu cyflwyniadau iddynt.
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Ar bapur ac ar lafar a thrwy gynllunio deunydd amlgyfrwng ar gyfer y cyhoedd, ar ffurf prosiect neu gyflwyniad. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Drwy ddysgu am faes sydd o鈥檙 pwys mwyaf i economi鈥檙 wlad; datblygu鈥檙 gallu i chwilio am gydweithrediad gan bobl eraill (e.e. mewn sefydliadau) i ddeall gofynion y gynulleidfa, ac i weithio鈥檔 hyderus ac i safon uchel o fewn cyfnod penodedig o amser. |
| Datrys Problemau | Drwy ddethol deunydd a鈥檌 ddehongli鈥檔 effeithiol. |
| Gwaith Tim | Elfennau o waith t卯m yn y gweithdai. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Drwy gael adborth gan y darlithwyr a thrwy drafod wgaith cyflwyno eraill mewn sefyllfa gweithdy. |
| Rhifedd | Gall fod elfennau achlysurol gydag ystadegau. |
| Sgiliau ymchwil | Dangos ystod o sgiliau ymchwilio a dod o hyd i amrywiaeth o ffynonellau ac ymgynefino 芒 deunyddiau mewn sawl cyfrwng. |
| Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i鈥檙 myfyrwyr ddefnyddio鈥檙 We, rhaglen PowerPoint, offer digidol, yn ogystal 芒 geirbrosesu. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a Lefel 5
