天天福利看片

Module Information

Cod y Modiwl
CY32420
Teitl y Modiwl
Y Cyfieithydd a'r Sector Cyfieithu
Blwyddyn Academaidd
2025/2026
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Tasgau cyfieithu听 Tair tasg gyfieithu (y ddwy dasg orau i'w hasesu) 1000 o eiriau听 30%
Asesiad Ailsefyll 1 Awr 听 Prawf Cyfieithu听 yn y dosbarth ar gyfrifiadur. 1 Awr听 30%
Asesiad Ailsefyll Traethawd听 2000 o eiriau听 40%
Asesiad Semester Traethawd听 2000 o eiriau听 40%
Asesiad Semester Tasgau cyfieithu听 Tair tasg gyfieithu; y ddwy dasg orau i'w hasesu. 1000 o eiriau听 30%
Asesiad Semester 1 Awr 听 Prawf Cyfieithu听 yn y dosbarth ar gyfrifiadur. 1 Awr听 30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Cyfieithu testunau proffesiynol eu natur i鈥檙 Gymraeg.

Gwneud defnydd o adnoddau iaith ar-lein a rhaglenni cyfieithu peirianyddol yn effeithiol.

Dangos dealltwriaeth drylwyr o gyweiriau鈥檙 Gymraeg wrth gyfieithu.

Dadansoddi yn fanwl heriau鈥檙 diwydiant cyfieithu yng Nghymru.

Dangos dealltwriaeth drylwyr o hanfodion gwahanol fathau ar gyfieithu gan gynnwys cyfieithu ysgrifenedig a chyfieithu ar y pryd.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn dysgu sgiliau cyfieithu proffesiynol ac yn rhoi cyflwyniad i heriau a hanfodion y diwydiant cyfieithu. Yn sgil y galw cynyddol am sgiliau dwyieithog mewn gweithleoedd ar draws Cymru, mae natur y sector cyfieithu yn esblygu. Bydd darlithoedd y modiwl yn trafod datblygiad y sector cyfieithu yng Nghymru, gofynion y diwydiant, swyddogaeth a heriau cyfieithu ar y pryd a datblygiadau technegol yn y maes megis cyfieithu peirianyddol a chofau cyfieithu. Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle ichi ymarfer sgiliau cyfieithu, golygu a phrawf-ddarllen a dysgu am yr adnoddau ieithyddol sydd ar gael i gynorthwyo鈥檙 gwaith.

Nod

Amcan y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i sgiliau cyfieithu proffesiynol drwy ddefnydd o dechnoleg cyfieithu a dysgu dealltwriaeth o ofynion a heriau'r sector cyfieithu.

Cynnwys

Bydd 10 darlith yn cyflwyno gwahanol agweddau ar y diwydiant cyfieithu, egwyddorion cyfieithu a gwaith cyfieithwyr proffesiynol. Trafodir pynciau megis:
Datblygiad cyfieithu yng Nghymru
Hanfodion cyfieithu proffesiynol
Cyfieithu yng ngweithleoedd Cymru
Cyfieithu peirianyddol
Cofau cyfieithu
Cyfieithu ar y pryd

Bydd gweithdai鈥檙 modiwl yn rhoi cyfle ichi ymarfer cyfieithu ar bapur ac ar gyfrifiadur ac ymarfer eich sgiliau golygu a phrawf-ddarllen. Cewch chi ddysgu am yr adnoddau iaith a ddefnyddir gan gyfieithwyr a gwneud defnydd ohonynt wrth ymarfer. Bydd cyfle yn y gweithdai hefyd i dderbyn adborth adeiladol ar eich gwaith cyfieithu.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cydlynu ag erail Bydd cyfle i weithio mewn grwpiau wrth lunio cyfieithiadau mewn rhai gweithdai.
Cyfathrebu proffesiynol Datblygir sgiliau cyfathrebu proffesiynol yn y Gymraeg ar ffurf cyfieithiadau ysgrifenedig a thraethawd
Datrys Problemau Creadigol Un o hanfodion y modiwl yw datblygu sgiliau cyfieithu sy鈥檔 galw am waith dadansoddi wrth drosi testun i iaith arall. Bydd myfyrwyr yn wynebu heriau o safbwynt geirfa, cystrawen, cywair a mynegiant.
Gallu digidol Datblygir dealltwriaeth o gyfieithu peirianyddol, cofau cyfieithu ac adnoddau iaith ar-lein megis geiriaduron a phyrth termau. Anogir y myfyrwyr hefyd i wneud defnydd o鈥檙 Bwrdd Du.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Datblygir sgiliau dadansoddi wrth drafod heriau a hanfodion y diwydiant cyfieithu ac egwyddorion cyfieithu.
Myfyrdod Datblygir gallu鈥檙 myfyrwyr i wella eu dysgu a鈥檜 perfformiad drwy鈥檙 tasgau cyfieithu rheolaidd. Dysgir sgiliau golygu a phrawf-ddarllen sy鈥檔 cynorthwyo myfyrwyr i wella鈥檜 gwaith cyfieithu eu hunain.
Synnwyr byd go iawn Datblygir dealltwriaeth o ofynion a heriau鈥檙 diwydiant cyfieithu proffesiynol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a Lefel 6