天天福利看片

Module Information

Cod y Modiwl
DG31000
Teitl y Modiwl
Sgiliau Cyflogadwyedd Ar Waith
Blwyddyn Academaidd
2025/2026
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad Pwerbwynt wedi ei drosleisio听 10 Munud听 30%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad terfynol听 2000 o eiriau听 70%
Asesiad Semester Adroddiad terfynol听 2000 o eiriau听 70%
Asesiad Semester Cyflwyniad Pwerbwynt wedi ei drosleisio听 10 Munud听 30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Cymhwyso gwybodaeth a datblygu dealltwriaeth o鈥檙 gweithle

Adnabod tasgau a phroblemau sy'n berthnasol i sefydliad y lleoliad gwaith a hwyluso canlyniadau priodol

Gwerthuso eu perfformiad eu hunain a gwella ymwybyddiaeth o'u proffil sgiliau eu hun

Ymgysylltu'n rhagweithiol gydag unigolion a grwpiau yn y sefydliad

Datblygu'r gallu i adfyfyrio ar wybodaeth a phrofiad a gafwyd ar y lleoliad gwaith

Cyflwyno syniadau'n effeithiol yn ysgrifenedig ac mewn cyflwyniad llafar

Cyfathrebu a chydweithio鈥檔 effeithiol gyda chymheiriaid a gydag unigolion amrywiol yn lleoliad yr ymarfer

Datblygu gallu mewn amrywiaeth eang o sgiliau trosglwyddadwy, yn cynnwys darllen, cymathu, ymchwilio a beirniadu systemau cyfundrefnol neu sefydliadol cymhleth

Datblygu gallu i gyfleu gwybodaeth academaidd mewn lleoliad ymarferol yn defnyddio moddau sy'n briodol i'r lleoliad gwaith, yn cynnwys cyfathrebu llafar, ysgrifenedig ac electronig

Disgrifiad cryno

Mae鈥檙 modiwl hwn yn cynnig profiad ymarferol a phenodol yn y gweithle i gyfoethogi cyfleoedd cyflogaeth myfyrwyr yn y dyfodol. Caiff cyfleoedd eu clustnodi i fyfyrwyr weithio mewn sefydliadau masnachol, llywodraeth, awdurdod lleol neu elusennol. Bydd hyn yn galluogi myfyrwyr i fynd ati i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd ac ar yr un pryd gyfrannu鈥檔 ystyrlon at waith y sefydliad lletyol.Bydd gofyn i鈥檙 myfyrwyr adfyfyrio ar eu datblygiad personol a phroffesiynol.

Ni ellir sicrhau lle ar y modiwl ar gyfer unrhyw fyfyriwr a gellir cynnal cyfweliadau er mwyn cynnig llefydd.

Nod

Nod y modiwl yw cynnig cyfle i fyfyrwyr ymgymryd 芒 lleoliad gwaith o fewn y Brifysgol neu gyda sefydliad allanol. Mae鈥檔 sicrhau bod myfyrwyr yn ymwneud 芒 darnau real o waith neu brosiectau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi a鈥檜 defnyddio ac sy鈥檔 adlewyrchu anghenion ac arferion cyfredol yn y gweithle.

Cynnwys

Dysgir y modiwlau tros ddau semestr. Dysgir y modiwl trwy brofiad gwaith ac yn ystod 8 seminar o 1 awr yr un. Disgwylir i鈥檙 profiad gwaith gymeryd lle yn rheolaidd. Cydlynydd y modiwl fydd yn trefnu鈥檙 profiad gwaith gan amlaf ond gall myfyrwyr ddod o hyd i鈥檞 profiad gwaith ei hunain e.e. yn ystod gwyliau鈥檙 haf cyn iddynt ddechrau eu trydydd flwyddyn, cyn belled eu bod wedi llwyddo yn yr ail flwyddyn. Mae鈥檔 angenrheidiol fod cydlynydd y modiwl yn cymeradwyo鈥檙 profiad gwaith ymlaen llaw. Er mwyn i鈥檙 profiad gwaith gael ei gymeradwyo mae鈥檔 rhaid i鈥檙 myfyrwyr gwblhau o leiaf 80 awr o waith. Disgwylir i鈥檙 myfyrwyr ymgymeryd mewn gwaith ymchwil ar gyfer paratoi ac ysgrifennu adroddiad o 2,000 o eiriau. Dylai鈥檙 adroddiad am y profiad gwaith asesu dealltwriaeth myfyrwyr o鈥檙 prosiectau maent wedi bod yn ran ohonynt ac asesu eu gallu i fyfyrio ar ganlyniadau y profiad gwaith.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Defnydd effeithiol o wahanol fathau o gyfathrebu, sy鈥檔 cynnwys yr adroddiad terfynol a鈥檙 cyflwyniad llafar. Yn ogystal a hyn, caiff cyfathrebu ar lafar ei annog a鈥檌 ddatblygu yn ystod trafodaethau rhyngweithiol mewn seminarau ac yn ystod rhyngweithio gyda chyd-weithwyr a chleientiaid/neu gleientiaid yn y lleoliad profiad gwaith.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd dysgu trwy gydol y modiwl yn arfogi鈥檙 myfyrwyr gyda鈥檙 gwybodaeth angenrheidiol, y sgiliau trosglwyddiadwy a鈥檙 hyder i lwyddo mewn ystod eang o yrfaoedd. Saif y modiwl yn gadarn ar gyfer ehangu dysgu鈥檙 myfyrwyr yn y meysydd hyn. Yn wir, dyna鈥檙 ethos sy鈥檔 sail i鈥檙 modiwl yma.
Datrys Problemau Yn ystod y Profiad Gwaith bydd yn rhaid i鈥檙 myfyrwyr ddatrus llawer o broblemau ymarferol a all godi a fydd yn cynyddu eu sgiliau datrus problemau ymarferol a beirniadol
Gwaith Tim Fel rheol, dibyna sefydliadau ar weithio fel tim felly bydd y modiwl, wrth reswm, yn cynyddu sgiliau gweithio mewn tim.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd derbyn asesiad fel canlyniad i鈥檙 adroddiad terfynol a鈥檙 cyflwyniad llafar yn cynyddu hunan-ymwybyddiaeth a鈥檙 gallu i hunan-fyfyrio yn feirniadaol.
Sgiliau pwnc penodol Bydd datblygu sgiliau pynciol penodol yn agwedd ar gyfer pob myfyriwr ond bydd cynnwys ac ehangder y sgiliau yma鈥檔 dibynu ar y lleoliad profiad gwaith.
Sgiliau ymchwil Bydd sgiliau ymchwil myfyrwyr yn cael eu datblygu trwy eu defnydd o lenyddiaeth ymchwil.
Technoleg Gwybodaeth Ceir trwy weithgareddau yn ystod y profiad gwaith.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a Lefel 6