Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Ailsefyll | Arholiad agored听 1000 o eiriau听 | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd ysgrifenedig听 2000 o eiriau听 | 50% |
| Asesiad Semester | Arholiad agored听 1000 o eiriau听 | 50% |
| Asesiad Semester | Traethawd ysgrifenedig听 2000 o eiriau听 | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dangos dealltwriaeth o arwyddocad ffynonellau gwreiddiol wrth astudio hanes.
Dangos dealltwriaeth o鈥檙 amrywiaeth o fathau o ffynonellau gwreiddiol a'u defnydd.
Dadansoddi a dehongli ffynhonnell benodol a鈥檌 gosod yn ei chyd-destunau hanesyddol a hanesyddiaethol.
Disgrifiad cryno
O lawysgrifau i bapurau newydd, dogfennau swyddogol i gerddoriaeth, tros y blynyddoedd mae haneswyr wedi gwneud defnydd o amrediad eang o ffynonellau er mwyn dehongli鈥檙 gorffennol. Bwriad y modiwl yw eich cymryd ar daith trwy hanes gan ganolbwyntio ar yr union ddeunyddiau a ddefnyddiwyd gan haneswyr er mwyn deall hanes. Cyflwynir myfyrwyr i鈥檙 amrywiaeth o ffynonellau a ddefnyddir gan ein darlithwyr yn eu hymchwil eu hunain ac fe鈥檜 dysgir i鈥檞 dadansoddi. Ffynonellau gwreiddiol yw鈥檙 cliwiau a ddefnyddir gan haneswyr er mwyn creu darlun o鈥檙 gorffennol. Dysgir myfyrwyr ar y modiwl i ymwneud yn feirniadol 芒鈥檙 rhain a pharatoir myfyrwyr i wneud eu gwaith ditectif hanesyddol eu hunain yn y dyfodol.
Cynnwys
Cyflwyna鈥檙 modiwl hwn fyfyrwyr i amrediad o ffynonellau gwreiddiol a鈥檜 defnydd gan haneswyr. Ymhob un o鈥檙 naw gweithdy dwyawr cyflwynir myfyrwyr i ffynhonnell wreiddiol benodol, ei defnydd gan haneswyr a sut i鈥檞 dadansoddi. Bydd elfen ymarferol o weithio 芒 deunydd gwreiddiol ymhob gweithdy yn ogystal 芒 gwybodaeth am ffyrdd mae haneswyr wedi eu defnyddio. Adlewyrcha鈥檙 modiwl ddiddordebau ymchwil aelodau staff yr adran ac felly canolbwyntir ar y ffynonellau a ddefnyddir ganddynt. Archwilir amrediad eang o ddeunyddiau, gan gynnwys ffynonellau archifol, dogfennau personol, diwylliant materol a ffynonellau gweledol a chlyweledol ymysg eraill. O fewn gweithdai unigol astudir ffynonellau megis llythyrau, dyddiaduron, papurau newydd, caneuon, papurau personol, hanes llafar, ffilmiau a darluniau, megis posteri neu ffotograffau. Ar wahan i鈥檙 naw gweithdy bydd hefyd darlith gyflwyniadol, sesiwn ymarferol er mwyn paratoi cyflwyniadau gr诺p a sesiwn llafar er mwyn asesu cyflwyniadau grwp.
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Datablygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig yn y traethawd a sgiliau cyfathrebu llafar yn y cyflwyniad grwp. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd myfyrwyr yn datblygu amrediad o sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys rheoli amser, ymchwil a chyfathrebu a fydd o gymorth iddynt adnabod eu cryfderau wrth ystyried gyrfaoedd posibl. |
| Datrys Problemau | Adnabod problemau a ffactorau all ddylanwadu ar atebion posibl; datblygu ffyrdd creadigol o ddatrys problemau; dadansoddi manteision ac anfanteision atebion posibl. |
| Gwaith Tim | Mae gwaith tim yn rhan hanfodol o鈥檙 gweithdai a鈥檙 aseiniadau, a disgwylir i fyfyrwyr gyfrannu鈥檔 llawn i鈥檙 trafodaethau. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Trwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu, mae'r modiwl yn manteisio myfyrwyr ag amrywiaeth o ddulliau addysgu, sy'n helpu myfyrwyr datblygu hyder yn eu hastudiaethau. Byddant hefyd yn addasu i ddadansoddi amrediad o ffynonellau. |
| Rhifedd | |
| Sgiliau pwnc penodol | Bydd myfyrwr yn datblygu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ffynonellau gwreiddiol a鈥檙 sgiliau i鈥檞 dadansoddi. |
| Sgiliau ymchwil | Bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau ymchwil wrth ddadansoddi ffynonellau gwreiddiol ac ystyried eu cyd-destun. Bydd yr ymchwil yn datblygu sgiliau llythrennedd gwybodaeth. |
| Technoleg Gwybodaeth | Mae pob rhan o鈥檙 modiwl yn cynnwys rhywfaint o ddefnydd o dechnoleg gwybodaeth. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a Lefel 4
