Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd ysgrifenedig 1听 2000 o eiriau听 | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd ysgrifenedig 2听 2000 o eiriau听 | 50% |
| Asesiad Semester | Traethawd ysgrifenedig 1听 2000 o eiriau听 | 50% |
| Asesiad Semester | Traethawd ysgrifenedig 2听 2000 o eiriau听 | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Asesu sut a pham y daeth hanes yn ddisgyblaeth academaidd modern ac adnabod prif nodweddion hanesyddiaeth proffesiynol.
Arddangos ymwybyddiaeth o鈥檙 modd y mae haneswyr wedi mynd i鈥檙 afael 芒 chwestiynau a phroblemau hanesyddol gwahanol.
Ystyried ysgrifau hanesyddol a ddefnyddir ar fodiwlau eraill mewn cyd-destun ehangach.
Arddangos eu bod yn gyfarwydd 芒 thueddiadau pwysig yn yr astudiaeth o hanes dros amser a dylanwad haneswyr ac ysgolion o feddwl penodol.
Arddangos gallu i ystyried amrywiaeth o dystiolaeth wrth drafod hanesyddiaeth a defnyddio鈥檙 dystiolaeth i lunio dadleuon effeithiol
Disgrifiad cryno
Mae hanes fel disgyblaeth wedi newid yn gyson, gyda sawl athroniaeth, agwedd a methodoleg yn datblygu ymysg ymchwilwyr ac awduron. Bwriad y modiwl yw archwilio鈥檙 datblygiadau hyn trwy ystyried nifer o gwestiynau allweddol y mae haneswyr wedi ceisio eu hateb. Ystyrir sut mae cymdeithasau鈥檙 gorffennol wedi gweld hanes, yr amrywiol ysgolion o feddwl hanesyddol a鈥檙 modd y maent wedi ceisio ateb cwestiynau neu broblemau hanesyddol penodol.
Nod
Yn y gorffennol dysgwyd y darlithoedd yn Saesneg gyda seminarau Cymraeg. Y dymuniad yw sicrhau y dysgir y modiwl yn gyfangwbl yn Gymraeg a newid y dulliau dysgu fod bod llai o ddarlithoedd a mwy o gyfle i fyfyrwyr ystyried y prif gysyniadau mewn modd ymarferol mewn gweithdai.
Cynnwys
Ceir deuddeg darlith yn y modiwl hwn; gallant amrywio o flwyddyn i flwyddyn ond byddant yn dilyn patrwm penodol. Bwriad y ddarlith gyntaf yw cyflwyno鈥檙 syniad o hanesyddiaeth. Ystyrir beth yw hanesyddiaeth a pham fod ei astudio鈥檔 bwysig. Yna ceir dwy ddarlith yn ystyried sut mae cymdeithasau鈥檙 gorffennol wedi gweld, ac wedi defnyddio, hanes wrth i鈥檙 term a鈥檙 dulliau o astudio鈥檙 pwnc ddatblygu dros amser. Ffurfia鈥檙 rhain gefndir ar gyfer cyfres o saith o ddarlithoedd a ystyria sut mae haneswyr wedi ceisio ateb cwestiynau neu broblemau hanesyddol penodol. Bydd y gyfres hon yn astudio ysgolion o feddwl hanesyddol (megis haneswyr Marcsaidd), datblygiad ffyrdd gwahanol o edrych ar y gorffennol (megis hanes merched neu rhywedd), a dulliau gwahanol a ddefnyddir gan haneswyr (megis hanes llafar). Ar ddiwedd y modiwl bydd darlith yn edrych yn benodol ar hanesyddiaeth Cymru cyn y ddarlith olaf fydd yn cloi鈥檙 modiwl.
Gweithdai a Phanel Drafod
Bydd chwech gweithdy yn y modiwl, pob un yn trafod un o鈥檙 ffyrdd y mae haneswyr wedi ceisio ateb un o鈥檙 cwestiynau neu broblemau a drafodwyd yn y darlithoedd. Bydd ffocws penodol ym mhob un ar sut mae鈥檙 syniadau wedi effeithio ar gyfnod neu bwnc penodol, ac felly gweld y cysyniadau hanesyddiaethol ar waith yn ymarferol.
Cynhelir y panel drafod ar ddiwedd y semester. Rhoddir cyfle i haneswyr amrywiol, gan gynnwys myfyrwyr ymchwil, s么n am sut maent wedi mynd i鈥檙 afael 芒 phroblem neu gwestiwn hanesyddiaethol yn eu gwaith. Rhoddir cyfle i fyfyrwyr weld y syniadau a drafodwyd yn y modiwl ar waith gan yr haneswyr hyn.
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Trwy drafodaeth mewn gweithdai a throsglwyddo gwybodaeth yn ysgrifenedig mewn traethawd ac arholiad |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a sgiliau dadansoddi. |
| Datrys Problemau | Disgwylir i fyfyrwyr fedru trin a thrafod problemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol wrth baratoi ar gyfer gweithdau a gwaith ysgrifenedig. |
| Gwaith Tim | Cymryd rhan mewn gweithgareddau gweithdy, deall sut i weithredu ar y cyd gydag aelodau eraill o鈥檙 gr诺p a gwerthuso eu cyfraniad. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Datblygu sgiliau trefnu drwy reoli amser a chyflwyno gwaith yn brydlon. Gwneud defnydd o adborth ar waith a gyflwynir er mwyn gwella鈥檙 perfformiad |
| Sgiliau pwnc penodol | Datblygu ymwybyddiaeth o鈥檙 modd y mae haneswyr wedi trafod hanes yn y gorffennol a dylai hyn eu cynorthwyo wrth iddynt ddarllen ar gyfer modiwlau eraill. |
| Sgiliau ymchwil | Defnyddio amryw o destunau gwahanol a鈥檜 hasesu er mwyn ffurfio barn feirniadol ar gyfer y traethawd a鈥檙 arholiad. |
| Technoleg Gwybodaeth | Caiff myfyrwyr eu hannog i ddarganfod deunydd priodol arlein ac ar systemau a geir drwy鈥檙 llyfrgell. Bydd disgwyl iddynt baratoi eu gwaith ar gyfrifiadur a defnyddio Blackboard. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a Lefel 5
