Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd听 2000 o eiriau听 | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Arholiad agored听 2000 o eiriau听 | 50% |
| Asesiad Semester | Traethawd听 2000 o eiriau听 | 50% |
| Asesiad Semester | Arholiad agored听 2000 o eiriau听 | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dangos ymwybyddiaeth o hanes cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a diwydiannol cymunedau meysydd glo Prydain yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.
Gwerthfawrogi鈥檙 gwahaniaethau a chyffelybiaethau rhwng y gwahanol feysydd glo dros y gyfnod dan sylw ac effaith gwladoli鈥檙 diwydiant yn y 1940au.
Deall a gwerthuso鈥檔 feirniadol wahanol drafodaethau a dadansoddiadau o gymunedau glofaol a geir mewn ffynonellau cyfoes a gwaith hanesyddiaethol.
Darllen, dadansoddi a gwerthuso amrywiaeth o ffynonellau hanesyddol gwreiddiol, gan gynnwys papurau newydd, delweddau, hunangofiannau, ffilmiau dogfen, a recordiadau hanes llafar.
Disgrifiad cryno
Byddwn yn dechrau trwy ystyried amodau gwaith newydd yn y pwll glo, a ddaeth oherwydd y broses o fecaneiddio, a鈥檙 amodau gwaith yn y t欧 a brofwyd gan fenywod, yn ogystal 芒鈥檙 effeithiau o鈥檙 gwaith ar iechyd a chyflwr menywod a dynion. Byddwn yn symud ymlaen i astudio datblygiadau newydd yn y ffyrdd roedd cyflogwyr yn trin a rheoli eu gweithwyr cyn ystyried agweddau o ddiwylliant glowyr, gan gynnwys y ffyrdd y portreadwyd glowyr a鈥檜 cymunedau yn y celfyddydau. Yn olaf, byddwn yn astudio agweddau gwleidyddol y diwydiant glo, gan gynnwys streiciau, undebau llafur, gwleidyddiaeth adain chwith ac, yn olaf, gwladoli鈥檙 diwydiant yn 1947.
Nod
Y mae鈥檙 modiwl hwn, a鈥檙 modiwl cysylltiedig yn y semester cyntaf, yn cyflwyno hanes unigryw cymunedau meysydd glo Prydain yn ystod y ganrif cyn gwladoliad y diwydiant glo ym 1947. Defnyddir ystod eang o ffynonellau gwreiddiol i astudio gwaith a bywydau glowyr a鈥檜 teuluoedd yn y gwahanol feysydd glo ledled Prydain a bydd y profiadau hyn yn cael eu gosod mewn cyd-destun cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol ehangach. Bydd y modiwl hwn yn opsiwn arall i fyfyrwyr y drydedd flwyddyn sy鈥檔 gorfod dewis pwnc arbennig.
Cynnwys
1. Dulliau Newydd Gwaith
2. Gwaith Menywod yn y T欧
3. Damweiniau, Clefydau ac Anabledd
4. Cyflogwyr: Tadolaeth
5. Glo a鈥檙 Celfyddydau: Ffilmiau, nofelau a dram芒u
6. Cronfa Lles Glowyr
7. Undebaeth Llafur: Heriau o鈥檙 chwith a鈥檙 dde
8. Streiciau
9. Gwleidyddiaeth: Y Blaid Lafur a鈥檙 Blaid Gomiwnyddol
10. Gwladoli鈥檙 Diwydiant Glo
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Trwy drafodaeth mewn seminar a throsglwyddo gwybodaeth mewn traethawd ac arholiad |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a sgiliau dadansoddi |
| Datrys Problemau | Disgwylir i fyfyrwyr fedru trin a thrafod problemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol wrth baratoi ar gyfer seminarau a gwaith ysgrifenedig |
| Gwaith Tim | Cymryd rhan mewn gweithgareddau seminar a deall sut i weithredu ar y cyd gydag aelodau eraill o鈥檙 gr诺p. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Datblygu sgiliau trefnu drwy reoli amser a chyflwyno gwaith yn brydlon. Gwneud defnydd o adborth ar waith a gyflwynir er mwyn gwella鈥檙 perfformiad |
| Rhifedd | |
| Sgiliau pwnc penodol | Datblygu鈥檙 gallu i werthuso ffynonellau perthnasol i鈥檙 cyfnod a鈥檙 maes ynghyd 芒鈥檙 gallu i ymdrin yn feirniadaol 芒鈥檙 llenyddiaeth eilaidd. |
| Sgiliau ymchwil | Defnyddio amryw o gyfryngau gwahanol er mwyn ffurfio barn feirniadol. |
| Technoleg Gwybodaeth | Bydd defnydd o adnoddau arlein yn rhan hanfodol o ddulliau dysgu鈥檙 modiwl hwn a bydd felly鈥檔 rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau wrth, er enghraifft, gwneud defnydd o fyrddau trafod ar Blackboard. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a Lefel 6
