天天福利看片

Module Information

Cod y Modiwl
BG17520
Teitl y Modiwl
Bioleg Celloedd
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr 听 Arholiad听 1.5 Awr听 50%
Arholiad Semester 1.5 Awr 听 Arholiad听 1.5 Awr听 50%
Asesiad Ailsefyll Poster听 Poster a chyflwyniad wedi'i recordio 5 Minutes听 50%
Asesiad Semester Poster听 Poster a chyflwyniad wedi'i recordio 5 Minutes听 50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Rhoi disgrifiad manwl o strwythur y gell, gan nodi swyddogaethau pob rhan.

Adnabod a disgrifio moleciwlau biolegol, gan gysylltu eu strwythur a'u swyddogaeth.

Perfformio cyfrifiadau sy'n berthnasol i ddulliau a ddefnyddir ar gyfer gweithio gyda chelloedd

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn rhoi trosolwg o strwythur a swyddogaeth celloedd. Trafodir celloedd procaryotig ac enghreifftiau amrywiol o gelloedd ewcaryotig. Disgrifir yn fanwl y biomoleciwlau a'r organynnau sy'n bwysig yn strwythur a swyddogaeth celloedd. Datblygwyd sgiliau ymarferol a meintiol yng nghyd-destun dulliau ar gyfer astudio bioleg celloedd.

Cynnwys

Mae'r modiwl yn cynnwys trafodaeth ar strwythur celloedd sy'n amlygu r么l pilen fel yr egwyddor trefnu. Archwilir gwahanol fathau o gelloedd a'r berthynas rhwng strwythurau a swyddogaethau. Bydd trafodaeth am ddosbarthiadau moleciwlau biolegol sy'n ffurfio pob math o fywyd: asidau niwcl毛ig, proteinau, lipidau a charbohydradau. Cyflwynir ensymau a llwybrau allweddol metaboledd. Trafodir signalau celloedd a chellraniad yng nghyd-destun ffurfio meinweoedd ac organau. Atgyfnerthir y cysyniadau damcaniaethol trwy waith ymarferol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Delio 芒 phwysau terfyn amser
Cydlynu ag erail Bydd angen i fyfyrwyr weithio gyda'i gilydd mewn gwersi ymarferol a gweithdai
Cyfathrebu proffesiynol Dylid ystyried y gynulleidfa fwriadedig yn ofalus ar gyfer yr aseiniad
Datrys Problemau Creadigol Gwaith labordy a chyfrifiadau yn datblygu'r sgil hon
Gallu digidol Datblygir sgiliau wrth ddefnyddio meddalwedd ar gyfer yr asesiadau
Meddwl beirniadol a dadansoddol Ymchwil ar gyfer aseiniadau - gwerthuso a dewis ffynonellau
Myfyrdod Dylid defnyddio adborth i wella gwaith arall
Sgiliau Pwnc-benodol Mae myfyrwyr yn cael eu hannog a'u cynorthwyo i gysylltu cynnwys y modiwl 芒'u cynllun gradd dewisol
Synnwyr byd go iawn Mae'r aseiniad yn datblygu y sgiliau canlynol: cyfathrebu'n effeithiol, rheoli amser, cymryd penderfyniadau, addasu, cynllunio a threfnu, annibyniaeth, cydnabod rhagfarn a cham wybodaeth.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a Lefel 4