天天福利看片

Module Information

Cod y Modiwl
CY11020
Teitl y Modiwl
Ymwneud 芒'ch pwnc yn Gymraeg: sgiliau dwyieithog ar gyfer y brifysgol a'r gweithle
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhestr Ddarllen

Manylion y cyrsiau

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad llafar听 (+ cwestiynau) Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl 7 Munud听 20%
Asesiad Ailsefyll Portffolio o ymarferon听 Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl 1500 o eiriau听 50%
Asesiad Ailsefyll Darn myfyriol听 Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl 800 o eiriau听 10%
Asesiad Ailsefyll Crynodeb pynciol gyda llyfryddiaeth a chyfeirnodi llawn听 Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl 1000 o eiriau听 20%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar听 (+ cwestiynau) 7 Munud听 20%
Asesiad Semester 10 Awr 听 Cyfraniad at drafodaeth mewn seminarau听 10 Awr听 10%
Asesiad Semester Portffolio o ymarferon听 2000 o eiriau听 50%
Asesiad Semester Crynodeb pynciol gyda llyfryddiaeth a chyfeirnodi llawn听 1000 o eiriau听 20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Arddangos sgiliau darllen, trafod, dehongli, a gwerthuso beirniadol.

Dewis a dethol ffynonellau priodol ar gyfer eu hastudiaethau academaidd.

Gweithio gyda deunydd darllen yn Gymraeg a Saesneg, gan ddefnyddio sgiliau trawsieithu, aralleirio, throsi a rheoli termau yn briodol.

Deall a defnyddio confensiynau ysgrifennu academaidd Cymraeg, gan gynnwys cywair, defnyddio cystrawen naturiol y Gymraeg a chyfeirnodi.

Deall a defnyddio prosesau cynllunio, strwythuro, drafftio a golygu aseiniadau.

Cymryd cyfrifoldeb am loywi eu hiaith eu hunain, gan gynnwys defnyddio arfau iaith cyfrifiadurol.

Cyflwyno a thrafod pwnc ar lafar mewn dull naturiol a rhydd.

Adnabod a defnyddio sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer y gweithle.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn arfogi myfyrwyr i astudio drwy鈥檙 Gymraeg yn y Brifysgol a hefyd defnyddio鈥檙 Gymraeg yn broffesiynol yn y gweithle. Bydd yn datblygu鈥檙 sgiliau sydd eu hangen i astudio a gweithio鈥檔 ddwyieithog, ynghyd 芒 sgiliau academaidd cyffredinol. Drwy gyfres o sesiynau ymarferol, cyflwynir sgiliau megis ysgrifennu academaidd yn Gymraeg, cyflwyniadau llafar, gloywi iaith a defnyddio deunydd darllen cyfrwng Saesneg wrth astudio鈥檔 Gymraeg. Bydd y modiwl hwn hefyd yn paratoi myfyrwyr at astudio ar gyfer Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. (Bydd rhaid i fyfyrwyr sy鈥檔 dymuno sefyll y Dystysgrif gofrestru ar wah芒n ar gyfer y cymhwyster).

Cynnwys

Sesiynau ymarferol (2 awr yr un):
1) Sgiliau gwybodaeth: Primo, rhestrau darllen, llyfrgell adnoddau鈥檙 Coleg Cymraeg, ffynonellau dilys
2) Darllen a chymryd nodiadau: defnyddio deunydd Saesneg, sicrhau cyfeirnodi digonol, gwerthuso deunydd
3) Help cyfrifiadurol i ysgrifennu yn Gymraeg
4) Ysgrifennu academaidd: cywair, termau, dylanwad y Saesneg
5) Cyflwyniadau llafar a chywair llafar
6) Ysgrifennu i鈥檙 gweithle: gwallau iaith cyffredin, golygu
7) Ysgrifennu aseiniadau: dehongli cwestiynau, cynllunio a strwythuro, drafftio ac ail-ddrafftio
8) Cyfeirnodi: sgiliau cyfeirnodi, dyfyniadau a chyfeiriadau wrth ysgrifennu yn Gymraeg, cyfieithu a thrawsieithu
9) Trawsieithu i鈥檙 gweithle
10) Ysgrifennu rhydd

Seminarau:
1) Gloywi eich iaith eich hunan
2) Gwallau iaith cyffredin
3) Trafod yn y dosbarth
4) Gweithio mewn gr诺p
5) Cymraeg Clir
6) Paratoi at arholiadau
7) Cyflwyniadau llafar
8) Ysgrifennu rhydd
9) Trawsieithu
10) Ateb cwestiynau arholiad

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir sgiliau cyfathrebu drwy drafodaethau beirniadol mewn seminarau a sesiynau ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, gwaith gr诺p, cyflwyno ar lafar ac arfarnu gan gyfoedion.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir sgiliau a fydd yn fantais fawr yn y gweithle dwyieithog. Anogir y myfyrwyr i adnabod y sgiliau hyn a鈥檜 miniogi. Wrth gwblhau鈥檙 modiwl hwn, bydd myfyrwyr wedi derbyn pump o鈥檙 chwe sesiwn gefnogol i baratoi myfyrwyr at Dystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac fe鈥檜 hanogir i gofrestru i sefyll y Dystysgrif yn ystod y flwyddyn academaidd ganlynol.
Datrys Problemau Mae pob sesiwn ac ymarfer yn cynnwys elfen o ddatrys problemau wrth i鈥檙 myfyrwyr ffurfio atebion a dehongliadau sy鈥檔 briodol i鈥檞 pwnc academaidd ynteu鈥檙 gweithle, gan gymhwyso鈥檙 sgiliau priodol.
Gwaith Tim Mae myfyrwyr yn ymgymryd 芒 gweithgareddau arfarnu gan gyfoedion a gweithgareddau trafod mewn seminarau a sesiynau ymarferol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Gofynnir i fyfyrwyr baratoi portffolio o ymarferon a gynhyrchir drwy broses atblygol gan ddefnyddio arfarnu gan gyfoedion i wella eu gwaith. Bydd hefyd yn datblygu strategaethau ar gyfer gloywi eu hiaith eu hunain a datblygu arddull ysgrifennu academaidd.
Rhifedd Defnyddir gwybodaeth rifyddol sylfaenol wrth i鈥檙 myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau trawsieithu, sgiliau cyflwyno a sgiliau arholiad.
Sgiliau pwnc penodol Darperir i鈥檙 myfyrwyr gist offer o sgiliau hanfodol ar gyfer astudio eu pwnc drwy鈥檙 Gymraeg neu鈥檔 ddwyieithog. Byddant hefyd yn datblygu eu sgiliau ysgrifennu, llafar, gwerthuso, dehongli a dadansoddi鈥檔 feirniadol a鈥檜 cymhwyso.
Sgiliau ymchwil Mae鈥檙 modiwl yn gofyn am ddarllen, dadansoddi a dod o hyd i ddeunydd priodol. Mae defnyddio rhestrau darllen Aspire, Primo, Llyfrgell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac adnoddau cysylltiedig yn hanfodol.
Technoleg Gwybodaeth Gofynnir i fyfyrwyr ddefnyddio Microsoft Office a Blackboard fel rhan o鈥檙 modiwl. Mae defnyddio arfau iaith cyfrifiadurol yn hanfodol i bob aseiniad. Mae myfyrwyr hefyd yn dysgu sut mae adnabod gwerth ffynonellau cyfeiriol ar-lein.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a Lefel 4