天天福利看片

Module Information

Cod y Modiwl
CY20100
Teitl y Modiwl
Gloywi Iaith
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr 听 Arholiad Atodol听 2 Awr听 40%
Arholiad Semester 2 Awr 听 Arholiad听 2 Awr听 40%
Asesiad Ailsefyll Prawf Llafar听 10 Munud听 15%
Asesiad Ailsefyll Tasg Ysgrifenedig Estynedig听 1500 o eiriau听 45%
Asesiad Semester Prawf llafar听 10 Munud听 15%
Asesiad Semester Ymarferion Wythnosol (8 Semester 1; 8 Semester 2)听 1500 o eiriau听 45%

Canlyniadau Dysgu

O fanteisio i'r eithaf ar y modiwl hwn byddwch yn meddu ar ymwybyddiaeth o deithi'r Gymraeg ac yn medru ei defnyddio'n raenus ac yn gywir yn ysgrifenedig ac ar lafar.

Bydd myfyrwyr a fydd yn rhagori yn medru arddangos meistrolaeth o nodweddion megis orgraff yr iaith, ffurfiau ac amserau berfau, cenedl enwau, y treigladau, llunio cymalau ac adnabod gwahanol fathau o frawddegau.

Disgrifiad cryno

Modiwl yw hwn a fwriadwyd i feithrin gallu myfyrwyr i ysgrifennu'r Gymraeg yn safonol a chywir ac i'w llefaru'n raenus. Fe'i dysgir ar sail grwpiau dan ofal tiwtor, a gosodir tasg ysgrifenedig yn wythnosol. Yn ogystal 芒 thrafod cynhyrchion yr wythnos flaenorol, bydd elfen o hyfforddiant ieithyddol a fydd yn annibynnol ar hynny yn wedd ar bob dosbarth hefyd. Bydd prif bwyslais y dosbarthiadau ar yr iaith ysgrifenedig, ond rhoddir peth sylw hefyd i feithrin ymwybyddiaeth o iaith raenus fel paratoad ar gyfer y Prawf Llafar a fydd yn rhan o asesiad y modiwl.

Cynnwys

Dysgir y modiwl ar ffurf gr诺p neu weithdy iaith wythnosol o dan ofal tiwtor. Trafodir y gwallau cyffredin sy鈥檔 ymddangos yng ngwaith y myfyrwyr o wythnos i wythnos, a chyfeirir y myfyrwyr at yr adran berthnasol yn y Gramadeg. Gosodir ymarferion iaith yn y dosbarth o bryd i鈥檞 gilydd er mwyn hyfforddi dan gyfarwyddyd.

Bydd y pynciau gramadegol penodol hyn yn cael eu trafod:

Orgraff

Cenedl Enwau

Treigladau

Cyweiriau鈥檙 iaith

Gwahaniaethu rhwng defnydd safonol ac ansafonol o鈥檙 iaith

Cystrawennau

Cymalau

Priod-ddulliau

Diarhebion Cymraeg

Cyfieithu

Yn ogystal 芒 hyn, cynhelir gweithdy a fydd yn paratoi鈥檙 myfyrwyr ar gyfer sefyll y Prawf Llafar.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Bydd mireinio eu Cymraeg ysgrifenedig a llafar yn fanteisiol i fyfyrwyr yn ystod eu gyrfa yn y brifysgol, ac wrth fynd i鈥檙 gweithle proffesiynol Cymraeg ei iaith.
Cydlynu ag erail Bydd cyfle i gydweithio wrth wneud rhai ymarferion yn y dosbarth.
Cyfathrebu proffesiynol Bydd disgwyl i鈥檙 myfyrwyr allu cyfathrebu yn gywir ac yn effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Datrys Problemau Creadigol Bydd myfyrwyr yn gallu cywiro gwallau gramadeg a鈥檜 hesbonio.
Gallu digidol Bydd cyfle i ddefnyddio rhai adnoddau electronig perthnasol.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Bydd gofyn i鈥檙 myfyrwyr allu chwilio am esboniadau gramadegol a defnyddio adnodd electronig megis Geiriadur Prifysgol Cymru Ar-lein
Myfyrdod Bydd disgwyl i鈥檙 myfyrwyr allu gweld pa wallau rheolaidd y maent yn eu gwneud a sut i鈥檞 cywiro
Sgiliau Pwnc-benodol Trin y Gymraeg yn unol 芒 rheolau gramadegol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a Lefel 5