Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Arholiad Ailsefyll | 2 Awr 听 Arholiad听 2 Awr听 | 60% |
| Arholiad Semester | 2 Awr 听 Arholiad听 2 Awr听 | 60% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd听 2000 o eiriau听 | 40% |
| Asesiad Semester | Traethawd听 2000 o eiriau听 | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Cyd-destunoli testunau barddonol yn nhirwedd wleidyddol, ddiwylliannol a llenyddol y cyfnod, a thrafod y cyd-destun syniadol/ideolegol hwnnw鈥檔 feirniadol, ar lafar ac yn ysgrifenedig;
Trafod yn feirniadol destunau barddonol o'r cyfnod dan sylw mewn perthynas 芒 safonau beirniadaeth lenyddol berthnasol, eu crefft a鈥檜 strwythur;
Trafod yn feirniadol destunau barddonol o safbwynt eu perthynas 芒'r traddodiad llenyddol Cymraeg ac 芒 mudiadau llenyddol rhyngwladol perthnasol;
Trafod y testunau yn feirniadol o safbwynt awdur, darllenydd, testun ac ideoleg.
Disgrifiad cryno
Cyflwyniad i waith rhai o feirdd Cymru yn y cyfnod rhwng 1979 a heddiw. Bydd y modiwl yn trafod tueddiadau o ran them芒u a ffurfiau ac yn gosod y gweithiau yn eu cyd-destun hanesyddol. Bydd hefyd yn arweiniad i rai o theor茂au dadansoddi llenyddiaeth.
Cynnwys
Byddwn yn clywed ystod eang o leisiau, gan gynnwys rhai a gyfansoddodd yn benodol ar gyfer caneuon, ac yn craffu ar grefft, awen a syniadaeth rhai o feirdd mwyaf adnabyddus y cyfnod ynghyd 芒 rhai nad ydynt wedi dod i sylw amlwg
Byddwn yn ystyried y traddodiad llenyddol Cymraeg yng nghyd-destunmudiadau llenyddol rhyngwladol perthnasol.
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Anogir myfyrwyr i fynegi eu syniadau yn glir ac yn argyhoeddiadol yn yr aseiniad. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygir sgiliau hanfodol (megis paratoi a thraddodi papur ycmhwil annidbynnol) tua chanol y modiwl. |
| Datrys Problemau | Trwy ymwneud yn feirniadol, ar lafar ac ar bapur, 芒 chysyniadau deallusol sy鈥檔 codi o destunau llenyddol penodol. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Trwy ymchwil annibynnol; adborth ysgrifenedig a chyfraniadau llafar; datblygu sgiliau trefnu amser/gwaith; myfyrio ar sgiliau cyflwyno a gwaith ysgrifenedig arall. |
| Sgiliau pwnc penodol | Trwy feithrin gallu myfyrwyr i ddarllen a deall testunau, a thrwy hynny ddysgu mwy am ddatblygiad ymateb llenorion i Gymru a鈥檙 byd. |
| Sgiliau ymchwil | Trwy gyfrwng ymchwil annibynnol (dan gyfarwyddyd) ar gyfer yr aseiniad ysgrifenedig. Hefyd, trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau electronig a llyfryddol. |
| Technoleg Gwybodaeth | At ddibenion ymchwil (aseiniad a thrafodaethau); prosesu geiriau. Defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol; cael mynediad i adnoddau鈥檙 modiwl ar y BwrddDu. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a Lefel 5
