Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Arholiad Ailsefyll | 2 Awr 听 Arholiad听 2 Awr听 | 35% |
| Arholiad Semester | 2 Awr 听 Arholiad听 2 Awr听 | 35% |
| Asesiad Ailsefyll | Prawf Llafar听 Cyflwyniad llafar ar destun gosodedig gan ddefnyddio Pwerbwynt. 15 Munud听 | 30% |
| Asesiad Ailsefyll | Tasg Ysgrifenedig Estynedig听 1500 o eiriau听 | 35% |
| Asesiad Semester | Prawf lafar听 Cyflwyniad llafar ar destun gosodedig gan ddefnyddio Pwerbwynt 15 Munud听 | 30% |
| Asesiad Semester | Tasgau ysgrifenedig (8 Semester 1; 8 Semester 2)听 1500 o eiriau听 | 35% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
ysgrifennu Cymraeg safonol a chywir.
ymgydnabod 芒 rheolau gramadeg y Gymraeg.
allu esbonio gwallau iaith yn hyderus.
allu treiglo鈥檔 gywir.
allu defnyddio patrymau cystrawennol amrywiol.
adnabod mathau gwahanol o gymalau a鈥檜 defnyddio鈥檔 gywir mewn brawddegau.
defnyddio priod-ddulliau Cymraeg yn eu gwaith ysgrifenedig eu hunain.
wybod ystyr nifer o ddiarhebion Cymraeg a鈥檜 defnyddio鈥檔 naturiol mewn sgwrs ac ar bapur.
ymgydnabod 芒 chywirdeb Cymraeg llafar a ffurfiol.
wybod sut i ddefnyddio cyweiriau鈥檙 iaith yn ysgrifenedig ac ar lafar.
Disgrifiad cryno
Modiwl yw hwn a fwriadwyd i feithrin gallu myfyrwyr i ysgrifennu'r Gymraeg yn safonol a chywir ac i'w llefaru'n raenus. Fe'i dysgir ar sail grwpiau dan ofal tiwtor, a gosodir tasg ysgrifenedig yn wythnosol. Yn ogystal 芒 thrafod cynhyrchion yr wythnos flaenorol, bydd elfen o hyfforddiant ieithyddol a fydd yn annibynnol ar hynny yn wedd ar bob dosbarth hefyd. Bydd prif bwyslais y dosbarthiadau ar yr iaith ysgrifenedig, ond rhoddir peth sylw hefyd i feithrin ymwybyddiaeth o iaith raenus fel paratoad ar gyfer y Prawf Llafar a fydd yn rhan o asesiad y modiwl.
Nod
Darpara鈥檙 modiwl hwn sylfaen gref ar gyfer defnyddio鈥檙 iaith ysgrifenedig yn gywir i fyfyrwyr y mae鈥檙 Gymraeg yn ail iaith iddynt. Gan eu bod wedi derbyn cyfarwyddyd a pheth hyfforddiant gramadegol ar Lefel 1 a 2, bydd y modiwl hwn yn fwy ymestynnol am ei fod yn rhoi cyfle i鈥檙 myfyrwyr ymarfer y rhuglder a gafodd ei feithrin hyd at y flwyddyn olaf. Bydd modd iddynt ymarfer yr hyn a ddysgwyd o鈥檙 blaen drwy lunio darnau mewn Cymraeg llenyddol a ffurfiol.
Cynnwys
Bydd y pynciau gramadegol penodol hyn yn cael eu trafod:
1. Orgraff
2. Cenedl Enwau
3. Treigladau
4. Cyweiriau鈥檙 iaith
5. Gwahaniaethu rhwng defnydd safonol ac ansafonol o鈥檙 iaith
6. Cystrawennau
7. Cymalau
8. Priod-ddulliau
9. Diarhebion Cymraeg
10. Cyfieithu
Yn ogystal 芒 hyn, cynhelir gweithdy a fydd yn paratoi鈥檙 myfyrwyr ar gyfer sefyll y Prawf Llafar.
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Bydd disgwyl i鈥檙 myfyrwyr allu cyfathrebu yn gywir ac yn effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd mireinio eu Cymraeg ysgrifenedig a llafar yn fanteisiol i fyfyrwyr yn ystod eu gyrfa yn y brifysgol, ac wrth fynd i鈥檙 gweithle proffesiynol Cymraeg ei iaith. |
| Datrys Problemau | Bydd myfyrwyr yn gallu cywiro gwallau gramadeg a鈥檜 hesbonio. |
| Gwaith Tim | Bydd cyfle i gydweithio wrth wneud rhai ymarferion yn y dosbarth. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd disgwyl i鈥檙 myfyrwyr allu gweld pa wallau rheolaidd y maent yn eu gwneud a sut i鈥檞 cywiro. |
| Rhifedd | Amherthnasol |
| Sgiliau pwnc penodol | Trin y Gymraeg yn unol 芒 rheolau gramadegol. |
| Sgiliau ymchwil | Bydd gofyn i鈥檙 myfyrwyr allu chwilio am esboniadau gramadegol a defnyddio adnodd electronig megis Geiriadur Prifysgol Cymru Ar-lein. |
| Technoleg Gwybodaeth | Bydd cyfle i ddefnyddio rhai adnoddau electronig perthnasol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a Lefel 6
