天天福利看片

Module Information

Cod y Modiwl
CYM5720
Teitl y Modiwl
Meistroli Mynegiant yn y Gweithle Proffesiynol
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Aseiniad i'w gwblhau yn y dosbarth听 40%
Asesiad Ailsefyll 4 aseiniad unigol听 40%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad llafar ar bwnc perthnasol听 20%
Asesiad Semester Aseiniad i'w gwblhau yn y dosbarth听 40%
Asesiad Semester 4 aseiniad unigol听 40%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar ar bwnc perthnasol听 20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dangos ymwybyddiaeth gref o gywirdeb mynegiant

Hunanwerthuso gan adnabod cryfderau ac anghenion wrth gwblhau tasgau ysgrifenedig

Gwella ansawdd a mireino mynegiant personol

Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn gosodir tasgau iaith heriol er mwyn cryfhau gafael y myfyrwyr ar yr iaith a鈥檌 chyweiriau. Canolbwyntir ar bwyntiau gramadegol ymestynnol sydd yn achosi trafferthion i nifer, a bwriedir dyfnhau dealltwriaeth y myfyrwyr o gywirdeb drwy gyfrwng sesiynau adolygu dwys.

Nod

Pwrpas y modiwl yw atgyfnerthu sgiliau iaith y myfyrwyr a rhoi cyfle iddynt ddatblygu mwy o hyder yn eu meistrolaeth o ramadeg y Gymraeg, a鈥檜 harfogi ymhellach i ddrafftio darnau ysgrifenedig cywir a sicrhau mynegiant llafar o鈥檙 safon uchaf. Bwriad y modiwl hefyd yw cynnig cefnogaeth ieithyddol ehangach i鈥檙 myfyrwyr hynny nad ydynt wedi dilyn trywydd academaidd traddodiadol yn y Gymraeg.

Cynnwys

i. Cynhelir gweithdy cychwynnol a fydd yn cynnwys sesiynau er mwyn gosod seiliau cyffredinol yn ogystal 芒 chyfleoedd i adnabod cryfderau a gwendidau personol o ran iaith.

ii. Cynhelir sesiynau unigol ar-lein neu drwy rwydwaith fideo er mwyn trafod y tasgau iaith a osodir a chyflwyno adborth.

iii. Cynhelir 2 weithdy arall wyneb yn wyneb yn ystod y modiwl er mwyn dadansoddi gwallau, trafod gramadeg y frawddeg a thrafod nodweddion gwahanol lenddulliau. Bydd y sesiynau hyn hefyd yn cynnwys gwaith ehangach ar sgiliau prawfddarllen a golygu, a sgiliau cyflwyno.

iv. Cynhelir gweithdai amrywiol gan arbenigwyr iaith yn ymwneud 芒 datblygu sgiliau hyfedredd yn yr iaith.


Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu yn ystod y gweithdai ac wrth iddynt ymwneud 芒鈥檙 elfen paru a mentora. Bydd y myfyrwyr hefyd yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu llafar drwy gyfrwng y cyflwyniadau llafar. Bydd gofyn i鈥檙 myfyrwyr hefyd gyfathrebu鈥檔 effeithiol a chydweithio drwy gyfrwng y gweithdai gan arbenigwyr penodol a thrwy gyfrwng y sesiynau unigol wyneb yn wyneb.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y gweithdai a鈥檙 sesiynau yn cynnig cyfle iddynt ystyried eu gyrfaoedd wrth iddynt wella eu sgiliau proffesiynol. Bydd y cyflwyniadau llafar hefyd yn gyfle iddynt ddatblygu sgiliau personol pellach ac ymgyfarwyddo 芒 nodweddion gweithleoedd.
Datrys Problemau Disgwylir i鈥檙 myfyrwyr ddatrys problemau ieithyddol wrth gwblhau aseiniadau. Ceir cyfle hefyd yn ystod y gweithdai i ddangos tystiolaeth o bwyso a mesur a gwerthuso wrth wneud penderfyniadau.
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn cyfrannu at drafodaethau mewn seminarau a gweithdai, yn dangos eu sgiliau trin a thrafod a rhannu syniadau. Byddant hefyd yn trafod adborth ac yn cyfrannu鈥檔 adeiladol at waith y gr诺p.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Yn ystod y modiwl bydd y myfyrwyr yn derbyn adborth rheolaidd ar eu sgiliau ieithyddol ac o ganlyniad byddant yn adolygu eu gwaith er mwyn gwella eu perfformiad. Rhoddir pwyslais mawr ar ailddrafftio a thrafod anghenion penodol er mwyn gwella perfformiad a sicrhau cynnydd. Byddant hefyd yn derbyn adborth gan arbenigwyr iaith eraill
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Datblygir sgiliau iaith yn gyson drwy holl dasgau a nodweddion eraill y modiwl. Mae sicrhau iaith gyhyrog a chywir yn rhan greiddiol o ddatblygu sgiliau cyfieithu.
Sgiliau ymchwil Bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ymchwilio i wahanol ffynonellau (geiriaduron, terminolegau, meddalwedd) cyn gwneud penderfyniadau deallus wrth gywiro, golygu a phrawfddarllen.
Technoleg Gwybodaeth Bydd yn rhaid i鈥檙 myfyrwyr gyflwyno gwaith yn electronig a defnyddio geiriaduron a therminolegau ac amrywiol gyfarpar ieithyddol er mwyn cyflwyno aseiniadau. Bydd gofyn iddynt hefyd ddefnyddio meddalwedd cyflwyno megis PwerBwynt a Prezi.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a Lefel 7