天天福利看片

Module Information

Cod y Modiwl
DA11520
Teitl y Modiwl
Sut i Greu Planed
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr 听 Arholiad aml-ddewis听 1.5 Awr听 50%
Arholiad Semester 1.5 Awr 听 Arholiad aml-ddewis听 1.5 Awr听 50%
Asesiad Ailsefyll Portffolio gwaith cwrs听 700 o eiriau听 50%
Asesiad Semester Portffolio gwaith cwrs听 700 o eiriau听 50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Disgrifio si芒p a strwythur mewnol y blaned, a'r technegau a ddefnyddir i astudio ein Daear 3D

Dangos dealltwriaeth o dectoneg platiau, gan gynnwys natur ffiniau platiau, mecanweithiau symud, a pheryglon daearegol cysylltiedig (llosgfynyddoedd,daeargrynfeydd, swnami)

Dangos dealltwriaeth o'r prosesau cyfnewid sylfaenol rhwng yr atmosffer, hydrosffer a lithosffer gan gynnwys cylchrediadau鈥檙 atmosffer a鈥檙 cefnforoedd a'r cylch d诺r

Dangos dealltwriaeth o natur a rheolaethau newidiadau yn yr hinsawdd ar amrywiaeth o raddfeydd

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i鈥檙 rhyngweithio byd-eang rhwng cydrannau solet a hylifol system y Ddaear. Bydd yn archwilio nodweddion a鈥檙 mecanweithiau sy鈥檔 gyrru cylchrediadau creigiau a d诺r a鈥檙 cylchrediadau yn yr atmosffer a'r cefnforoedd sy'n siapio'r blaned ddeinamig hon yn barhaus.
Nod y modiwl yw meithrin dealltwriaeth o'r prosesau daearegol sy'n creu tirwedd a nodweddion solet y Ddaear, a'r prosesau sy'n cynhyrchu ac yn rheoli tywydd a hinsawdd.
Bydd yn darparu'r fframwaith sylfaenol ar gyfer deall ac ymchwilio i system amgylchedd y ddaear, dynameg newid byd-eang a'i oblygiadau i fywyd ar y ddaear.

Cynnwys

Bydd tair rhan i鈥檙 modiwl:
1.Y lithosffer: Bydd yr adran hon yn archwilio tarddiad y Ddaear a chysawd yr haul a si芒p a strwythur ein planed yn ogystal 芒 mecanweithiau tectoneg platiau a pheryglon cysylltiedig. Bydd hefyd yn cyflwyno cylchred yr uwchgyfandiroedd, a'r rhyngweithio rhwng cyfandiroedd, yr hinsawdd a lefel y m么r ar raddfa amser ddaearegol
2.Yr atmosffer: Bydd yr adran hon yn archwilio hanfodion ymbelydredd solar, ynni atmosfferig a'r gyllideb gwres fyd-eang a rhyngweithio prosesau allweddol yng nghydran atmosfferig y cylch d诺r - anweddu, ffurfio cymylau a dyodiad.Bydd hefyd yn archwilio cylchrediad atmosfferig byd-eang a'iddylanwad ar yr hinsawdd.
3.Yr hydrosffer: Bydd yr adran hon yn archwilio storfeydd a llwybrau'r cylch d诺r, gan gynnwys cylchrediad y cefnforoedd, d诺r ffo byd-eang a d诺r daear yn ogystal 芒 materion adnoddau d诺r cysylltiedig ac effaith newid amgylcheddol.
Cefnogir hyn gan ddysgu gweithredol trwy sesiwn ymarferol gysylltiedig a fydd yn datblygu sgiliau mewn trin, dadamsoddi a chyflwyno data.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd gofyn i fyfyrwyr ysgrifennu adroddiad i gyfathrebu dadansoddiad o ddata ac felly bydd sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a gweledol yn cael eu datblygu
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Anogir myfyrwyr i fyfyrio ar eu dysgu - bydd ffug arholiad anffurfiol yn annog hyn, ond ni fydd myfyrio yn cael ei asesu'n ffurfiol. Mae trin data yn sgil sy'n berthnasol i yrfaoedd yn y dyfodol. Mae'r gallu i gyfathrebu gan ddefnyddio iaith wyddonol briodol a gweithio fel rhan o d卯m yn sgiliau generig a throsglwyddadwy ond ni fyddant yn cael eu hasesu'n ffurfiol.
Datrys Problemau Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau datrys problemau trwy'r pedair sesiwn ymarferol dysgu gweithredol gan gynnwys defnyddio gwefan delweddu a lawrlwytho data am y tro cyntaf. Bydd angen i fyfyrwyr benderfynu ar y ffordd orau i ddadansoddi a chyflwyno data daearyddol a daearegol yn yr ymarferion hyn, yn aml trwy broses ailadroddol o arbrofi.
Gwaith Tim Bydd cyfle i fyfyrwyr weithio gyda'i gilydd os dymunant yn ystod y sesiynau ymarferol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd angen i fyfyrwyr addasu i arddull ddysgu fwy annibynnol a hunangyfeiriedig i gwblhau'r sesiynau ymarferol. Bydd cydrannau asesu ymarferol hefyd yn gofyn am rannu adnoddau 芒 myfyrwyr eraill ar y cwrs, gan feithrin sgiliau gweithio mewn t卯m a fydd o fudd i'w gallu i addasu a'u gwytnwch mewn amgylcheddau gweithio mewn gr诺p a dysgu gr诺p yn y dyfodol, yn ogystal 芒 bod yn sgiliau meddal gwerthfawr ar gyfer eu bywyd ehangach a gyrfa y tu hwnt i'r brifysgol
Rhifedd Bydd gofyn i fyfyrwyr drin data rhifyddol fel rhan o un gydran asesu.
Sgiliau pwnc penodol Bydd y modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o'r prosesau a'r rhyngweithiadau sylfaenol sy'n gysylltiedig 芒 daeareg a daearyddiaeth ffisegol y Ddaear. Bydd yn gosod y sylfaen ar gyfer astudio gwyddor daear, prosesau wyneb y ddaear, geomorffoleg a hydroleg mewn modiwlau eraill yn Rhan 1 a Rhan 2.
Sgiliau ymchwil Bydd gofyn i fyfyrwyr ddehongli data amgylcheddol ar gyfer un o'r sesiynau ymarferol (adroddiad ymarferol byr) a meddwl yn feirniadol hefyd am y ffyrdd gorau o gyflwyno data gwyddonol/daearyddol.
Technoleg Gwybodaeth Bydd gofyn i fyfyrwyr gyflwyno a dehongli data ar gyfer un asesiad, a defnyddio meddalwedd ddigidol i gwblhau'r rhain. Bydd y weithgareddasesiad hyn yn datblygu llythrennedd cyfrifiadurol. Mae darllen pellach yn rhan annatod o ddysgu dan gyfarwyddyd myfyrwyr, sy'n gofyn am gymhwysedd i ddod o hyd i ffynonellau perthnasol ac ymgysylltu 芒 nhw ar-lein a thrwy beiriannau chwilio digidol yn y llyfrgell.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a Lefel 4