Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad Pwerbwynt wedi ei drosleisio听 10 Munud听 | 30% |
| Asesiad Ailsefyll | Adroddiad terfynol听 2000 o eiriau听 | 70% |
| Asesiad Semester | Adroddiad terfynol听 2000 o eiriau听 | 70% |
| Asesiad Semester | Cyflwyniad Pwerbwynt wedi ei drosleisio听 10 Munud听 | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Cymhwyso gwybodaeth a datblygu dealltwriaeth o鈥檙 gweithle
Adnabod tasgau a phroblemau sy'n berthnasol i sefydliad y lleoliad gwaith a hwyluso canlyniadau priodol
Gwerthuso eu perfformiad eu hunain a gwella ymwybyddiaeth o'u proffil sgiliau eu hun
Ymgysylltu'n rhagweithiol gydag unigolion a grwpiau yn y sefydliad
Datblygu'r gallu i adfyfyrio ar wybodaeth a phrofiad a gafwyd ar y lleoliad gwaith
Cyflwyno syniadau'n effeithiol yn ysgrifenedig ac mewn cyflwyniad llafar
Cyfathrebu a chydweithio鈥檔 effeithiol gyda chymheiriaid a gydag unigolion amrywiol yn lleoliad yr ymarfer
Datblygu gallu mewn amrywiaeth eang o sgiliau trosglwyddadwy, yn cynnwys darllen, cymathu, ymchwilio a beirniadu systemau cyfundrefnol neu sefydliadol cymhleth
Datblygu gallu i gyfleu gwybodaeth academaidd mewn lleoliad ymarferol yn defnyddio moddau sy'n briodol i'r lleoliad gwaith, yn cynnwys cyfathrebu llafar, ysgrifenedig ac electronig
Disgrifiad cryno
Ni ellir sicrhau lle ar y modiwl ar gyfer unrhyw fyfyriwr a gellir cynnal cyfweliadau er mwyn cynnig llefydd.
Nod
Nod y modiwl yw cynnig cyfle i fyfyrwyr ymgymryd 芒 lleoliad gwaith o fewn y Brifysgol neu gyda sefydliad allanol. Mae鈥檔 sicrhau bod myfyrwyr yn ymwneud 芒 darnau real o waith neu brosiectau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi a鈥檜 defnyddio ac sy鈥檔 adlewyrchu anghenion ac arferion cyfredol yn y gweithle.
Cynnwys
Dysgir y modiwlau tros ddau semestr. Dysgir y modiwl trwy brofiad gwaith ac yn ystod 8 seminar o 1 awr yr un. Disgwylir i鈥檙 profiad gwaith gymeryd lle yn rheolaidd. Cydlynydd y modiwl fydd yn trefnu鈥檙 profiad gwaith gan amlaf ond gall myfyrwyr ddod o hyd i鈥檞 profiad gwaith ei hunain e.e. yn ystod gwyliau鈥檙 haf cyn iddynt ddechrau eu trydydd flwyddyn, cyn belled eu bod wedi llwyddo yn yr ail flwyddyn. Mae鈥檔 angenrheidiol fod cydlynydd y modiwl yn cymeradwyo鈥檙 profiad gwaith ymlaen llaw. Er mwyn i鈥檙 profiad gwaith gael ei gymeradwyo mae鈥檔 rhaid i鈥檙 myfyrwyr gwblhau o leiaf 80 awr o waith. Disgwylir i鈥檙 myfyrwyr ymgymeryd mewn gwaith ymchwil ar gyfer paratoi ac ysgrifennu adroddiad o 2,000 o eiriau. Dylai鈥檙 adroddiad am y profiad gwaith asesu dealltwriaeth myfyrwyr o鈥檙 prosiectau maent wedi bod yn ran ohonynt ac asesu eu gallu i fyfyrio ar ganlyniadau y profiad gwaith.
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Defnydd effeithiol o wahanol fathau o gyfathrebu, sy鈥檔 cynnwys yr adroddiad terfynol a鈥檙 cyflwyniad llafar. Yn ogystal a hyn, caiff cyfathrebu ar lafar ei annog a鈥檌 ddatblygu yn ystod trafodaethau rhyngweithiol mewn seminarau ac yn ystod rhyngweithio gyda chyd-weithwyr a chleientiaid/neu gleientiaid yn y lleoliad profiad gwaith. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd dysgu trwy gydol y modiwl yn arfogi鈥檙 myfyrwyr gyda鈥檙 gwybodaeth angenrheidiol, y sgiliau trosglwyddiadwy a鈥檙 hyder i lwyddo mewn ystod eang o yrfaoedd. Saif y modiwl yn gadarn ar gyfer ehangu dysgu鈥檙 myfyrwyr yn y meysydd hyn. Yn wir, dyna鈥檙 ethos sy鈥檔 sail i鈥檙 modiwl yma. |
| Datrys Problemau | Yn ystod y Profiad Gwaith bydd yn rhaid i鈥檙 myfyrwyr ddatrus llawer o broblemau ymarferol a all godi a fydd yn cynyddu eu sgiliau datrus problemau ymarferol a beirniadol |
| Gwaith Tim | Fel rheol, dibyna sefydliadau ar weithio fel tim felly bydd y modiwl, wrth reswm, yn cynyddu sgiliau gweithio mewn tim. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd derbyn asesiad fel canlyniad i鈥檙 adroddiad terfynol a鈥檙 cyflwyniad llafar yn cynyddu hunan-ymwybyddiaeth a鈥檙 gallu i hunan-fyfyrio yn feirniadaol. |
| Sgiliau pwnc penodol | Bydd datblygu sgiliau pynciol penodol yn agwedd ar gyfer pob myfyriwr ond bydd cynnwys ac ehangder y sgiliau yma鈥檔 dibynu ar y lleoliad profiad gwaith. |
| Sgiliau ymchwil | Bydd sgiliau ymchwil myfyrwyr yn cael eu datblygu trwy eu defnydd o lenyddiaeth ymchwil. |
| Technoleg Gwybodaeth | Ceir trwy weithgareddau yn ystod y profiad gwaith. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a Lefel 6
