Module Information
Cod y Modiwl
TC31120
Teitl y Modiwl
Ymarfer Cynhyrchu 2: Cyfryngau
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
听
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Ailsefyll | 1 Awr 听 Cyflwyniad Ymarferol听 Cyflwyniad ymarferol unigol yn seiliedig ar thema roddedig (cyfwerth 芒 30 munud) 1 Awr听 | 60% |
| Asesiad Ailsefyll | Portffolio听 Portffolio Beirniadol a Dogfennol cyfwerth 芒 1500 o eiriau/ 3 munud o fideo wedi鈥檌 olygu听 | 40% |
| Asesiad Semester | Portffolio听 Portffolio Beirniadol a Dogfennol cyfwerth 芒 1500 o eiriau/ 3 munud o fideo wedi鈥檌 olygu听 | 40% |
| Asesiad Semester | 80 Awr 听 Asesu Parhaus听 Asesu parhaus ymarferol: ymarfer a pharatoi gogyfer cynhyrchiad amlgyfrwng 80 Awr听 | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Arddangos gallu datblygedig i ddeall nodau ac amcanion celfyddydol a thechnegol y cynhyrchiad yn ystod y broses ddyfeisio.
Arddangos gallu i gymhwyso鈥檙 ddealltwriaeth honno i lefel uwch wrth baratoi deunydd ymarferol tuag at y cynhyrchiad amlgyfrwng.
Arddangos meistrolaeth o ystod o sgiliau ymarferol ym maes y cyfryngau.
Arddangos gallu i gymhwyso ac adfyfyrio yn ddwys a beirniadol ar eu dealltwriaeth o natur y deunydd a gynhyrchir, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
Disgrifiad cryno
Fe fydd y modiwl hwn yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr ddatblygu sgiliau cynhyrchu ymhellach trwy fod yn rhan o broses o greu ac ymarfer cynhyrchiad amlgyfrwng byw. Fe fydd briff sylfaenol y cynhyrchiad yn cael ei gyflwyno i鈥檙 myfyrwyr gan aelod o staff yr Adran, ac fe fydd modd i鈥檙 myfyrwyr gyfrannu i鈥檙 broses trwy ddarparu gwaith camera a/neu sain dan ofalaeth yr aelod staff hwnnw. Fe fydd gofyn iddynt astudio'r testun a ddewiswyd ar gyfer y prosiect, a'i ddadansoddi'n fanwl o safbwynt gweledigaeth yr awdur, ymchwilio i gynyrchiadau blaenorol, ac ystyried sut gellir ei gyflwyno鈥檔 fyw yn y presennol.
Yn sgil y gwaith cychwynnol hwn, fe archwilir sut i greu cynllun ymarfer effeithiol a thrylwyr ar gyfer y cynhyrchiad, ac fe eir ati i roi prawf ar y cynllun hwnnw trwy gyfrwng arbrofion ac ymarferion ffilmig, gweledol a seiniol. Yn ystod y cyfnod hwn, dosrennir tasgau penodol i鈥檙 myfyrwyr o safbwynt gwaith ffilmio unigol, saethu golygfeydd a gweithgareddau gr诺p, addasu testunol, saethu gwaith cymeriadol a choreograffi. Daw鈥檙 gwaith ar gyfer y modiwl hwn i ben wrth i鈥檙 deunydd fideo gael ei gwblhau a鈥檌 drefnu fel ag i鈥檞 gynnwys yn y cynhyrchiad a鈥檌 ddangos i gynulleidfa fyw.
Wrth ymroi i鈥檙 broses hon o arbrofi, archwilio, adeiladu ac ymarfer, fe fydd y myfyrwyr yn cydweithio gyda myfyrwyr ar nifer o fodiwlau eraill: sef TC21020 Ymarfer Cynhyrchu 1: Perfformio, TC21120 Ymarfer Cynhyrchu 1: Cyfryngau, a TC31020 Ymarfer Cynhyrchu 2: Perfformio. Bydd disgwyl i鈥檙 myfyrwyr ar y modiwlau hyn ganfod a diffinio ffyrdd o gyd-weithio a rhannu gwahanol gyfrifoldebau creadigol ac ymarferol tuag at nod cyffredin.
Rhydd y cydweithio hwn gyfle i鈥檙 myfyrwyr ddatblygu a mireinio sgiliau ymarferol arbenigol; ond fe fydd hefyd yn gofyn iddynt adolygu eu cynnydd hwy eu hunain a gosod eu cyfraniad i鈥檙 gwaith dyfeisio, creu ac ymarfer yn ei gyd-destun (o ran gwaith ymchwil, a鈥檙 cyd-destun ymarferol ac artistig); gwneir hyn trwy gyflwyno Portffolio Beirniadol a Dogfennol. Fe gyflwynir 5 seminar 1 awr i鈥檙 grwpiau sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 prosiect er mwyn trafod a chynnig cyngor ar baratoadau tuag at yr aseiniad hwn.

Cynnwys
Rhestr o weithgareddau nodweddiadol i鈥檞 cyflwyno yn y sesiynau ymarferol a鈥檜 trafod yn y seminarau:
Darllen y Ddrama
Arbrofi gyda鈥檙 berthynas rhwng y perfformio a鈥檙 gwaith sgrin
Asio鈥檙 deunydd sgrin a鈥檙 perfformio byw
Creu deunydd sgrin annibynnol/ ychwanegol i鈥檙 perfformio byw
Llunio sgript saethu ar gyfer y digwyddiad byw
Pennu symudiadau ac onglau camera ar gyfer y saethu
Pennu pwyntiau torri/golygu ar gyfer y ffilmio byw
Penderfynu sut i gymysgu鈥檙 delweddau
Ymarfer y digwyddiadau byw

Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Addasrwydd a gwydnwch | Fel unrhyw broses greadigol, fe fydd y modiwl hwn yn gofyn i鈥檙 myfyrwyr addasu a newid eu gweledigaeth wrth ymwneud 芒 datblygiad y prosiect ymarferol. Fe fydd y profiad hwn o gydweithio ac ymateb i ffurf graddol-ddatblygol y prosiect yn rhoi prawf go iawn ar wytnwch a dyfalbarhad y myfyrwyr. |
| Cydlynu ag erail | Mae'r modiwl hwn wedi'i seilio ar brofiad dwys o waith ymarferol mewn gr诺p yn y Prosiect Cynhyrchu amlgyfrwng. Fe fydd hefyd yn gofyn i鈥檙 myfyrwyr gydweithio鈥檔 agos gyda鈥檜 cyd-fyfyrwyr ym maes perfformio; a rhydd y pethau hyn .gyfle i'r myfyrwyr ddeall ac ymestyn ystod eang iawn o sgiliau gwaith t卯m. |
| Cyfathrebu proffesiynol | O raid, fe fydd cyfrannu i gynhyrchiad amlgyfrwng byw yn helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu'r myfyrwyr, o ran gwaith camera, sain a golygu. Mae'r broses o baratoi a chyflwyno cynhyrchiad yn gofyn am mynegiant a gwrando gofalus a phwrpasol iawn. Fe fydd y modiwl hwn yn rhoi pwyslais arbennig iawn hefyd ar waith cyd-destunol a chefndirol, ac fe fydd darllen a thrafod natur y ddrama a'r cynhyrchiad yn rhan allweddol bwysig o'r seminarau wythnosol. |
| Datrys Problemau Creadigol | Datblygir y sgiliau hyn yn gyson drwy'r modiwl wrth i'r myfyrwyr wynebu her dyfeisio a chreu prosiect amlgyfrwng. Fe fydd seminarau dysgu'r modiwl yn fodd o nodi nifer o broblemau sylfaenol y mae'n rhaid eu wynebu a cheisio'u goresgyn wrth gyflwyno cynhyrchiad amlgyfrwng, yn enwedig y rheini sy'n codi wrth geisio trosglwyddo gweledigaeth dramodydd o'r dudalen i'r llwyfan cyfoes. |
| Gallu digidol | Ni ddatblygir y sgiliau hyn yn uniongyrchol o ganlyniad i'r profiad dysgu, ond fe fydd yna sawl cyfle i'r myfyrwyr ymestyn eu gallu i ddeall a defnyddio offer technegol digidol wrth wneud baratoi eu gwaith ymarferol, ac wrth gysylltu a'i gilydd yn ystod y broses gwaith. |
| Meddwl beirniadol a dadansoddol | Fe fydd yr aseiniadau ysgrifenedig yn y portffolio yn codi allan o waith a drafodir ac a gyflwynir yn y seminarau, a chan hynny yn gofyn datblygu sgiliau dadansoddiadol er mwyn eu cwblhau. Fe fydd y seminarau hefyd yn trafod y gwaith a fydd wedi'i gyflawni gan y cyfarwyddwr ac yn gosod y gwaith hwnnw mewn cyd-destun ehangach yn seiliedig ar ddehongliad sylfaenol o waith y dramodydd. |
| Myfyrdod | Fe fydd y modiwl hwn yn cael ei gyflwyno trwy gyfrwng nifer o wahanol dulliau dysgu, ac fe fydd yr ystod hwn o brofiadau yn helpu i'r myfyrwyr ddod yn fwy ymwybodol o'u profiad dysgu a'u anghenion personol mewn perthynas a'u cryfder wrth ymateb i rai o'r rhwystrau a all godi. |
| Synnwyr byd go iawn | Fe fydd y profiad o weithio ar gynhyrchiad ymarferol ac ymateb yn ymarferol i'r cynhyrchiad hwnnw yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr ddatblygu sgiliau ymarferol wrth drin testun dramataidd. Fe fydd hyn yn rhoi cyfle iddynt arbenigo mewn maes o'u dewis hwy (gwaith camera, sain neu olygu), i ddatblygu ymwybyddiaeth o'u medrau personol, ac o'r safbwyntiau a nodweddion personol hynny a all fod o ddefnydd iddynt wrth gynllunio gyrfa. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a Lefel 6